Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Canolfan ymwelwyr Brymbo gam yn nes
Mae'r cynlluniau i drawsnewid cyn-waith dur Brymbo yn Wrecsam i ganolfan ymwelwyr gam yn nes.
Mae Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo wedi derbyn 拢50,000 er mwyn ariannu cynlluniau pensaern茂ol i drawsnewid adeilad y Siop Beiriannau o'r 1920au.
Gobaith yr Ymddiriedolaeth yw bydd y cynlluniau yn denu 拢1.15m o Gronfa'r Loteri Fawr.
Y bwriad yw ail-ddefnyddio naw adeilad gan agor canolfan dreftadaeth ac unedau busnes.
Ar un adeg roedd y safle yn cyflogi 2,500 o bobol.
Cafodd y gwaith ei gau yn 1990 ar 么l bod yn cynhyrchu dur am bron i 200 mlynedd.