Adroddiad OECD: Angen parhau 芒'r newid cwricwlwm
- Cyhoeddwyd
Mae'r corff sy'n cynhyrchu canlyniadau rhyngwladol PISA ar gyfer ysgolion yn dweud y dylai Cymru barhau gyda chynlluniau i ad-drefnu'r cwricwlwm.
Ond maen nhw hefyd yn dweud bod angen sicrhau buddsoddiad cynaliadwy i godi safonau addysgu.
Roedd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams wedi gofyn i gorff OECD werthuso'r newidiadau ar gyfer addysg yng Nghymru.
Mae'r rhain yn cynnwys cynlluniau i newid y cwricwlwm presennol am fframwaith addysgu newydd.
Yn eu hadroddiad, gafodd ei cyhoeddi fore Mawth, mae'r OECD hefyd yn dweud bod cryfhau datblygiad penaethiaid ysgolion yn allweddol i lwyddiant y newidiadau, ynghyd 芒 buddsoddi yn y proffesiwn.
Mae Kirsty Williams wedi croesawu'r adroddiad, gan ddweud ei bod hi eisoes yn gweithredu nifer o'r argymhellion.
Roedd canlyniadau disgyblion Cymru yn y profion PISA diweddaraf yn is na'r cyfartaledd rhyngwladol, ac yn waeth na gwledydd eraill y DU.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2016
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2015
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2017