Pencadlys S4C, Yr Egin, i gael 拢3m gan Lywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd Llywodraeth Cymru'n cyfrannu 拢3m at y gwaith o adeiladu Yr Egin, pencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin.
Aeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant at y llywodraeth i ofyn am arian cyhoeddus wedi i'w cais am arian Ewropeaidd gael ei wrthod.
Mae disgwyl y bydd 拢3m arall yn dod o fargen ddinesig Bae Abertawe.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, y byddai'r cynllun yn rhoi bywyd newydd i'r economi leol.
"Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i ddarparu'r seilwaith angenrheidiol i gefnogi gweledigaeth y brifysgol o glwstwr o fusnesau creadigol yng Nghaerfyrddin," meddai.
'Chwistrellu bywyd newydd'
"Bydd hyn, yn ei dro, yn helpu i chwistrellu bywyd newydd i'r economi leol, yn dod 芒 swyddi ychwanegol o ansawdd uchel i Gaerfyrddin, a gwella enw da cynyddol Cymru fel cefnogwr talent, dychymyg a chynhyrchiant."
Ychwanegodd y byddai'r gefnogaeth ariannol yn gymorth i "ddarparu gofod a chyfleoedd rhwydweithio ar gyfer busnesau eraill, y brifysgol, myfyrwyr ac entrepreneuriaid".
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud o'r blaen ei fod yn "siomedig" fod bwlch cyllido wedi ymddangos ers i'r prosiect gael ei gyhoeddi gyntaf yn 2014.
Yn 么l panel annibynnol sy'n cynghori'r llywodraeth ar y diwydiannau creadigol, ni ddylai'r Egin dderbyn arian gan y trethdalwr.
'Hwb economaidd'
Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan S4C a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Bydd yr adeilad yma, nid yn unig yn gartref i bencadlys S4C, ond hefyd yn gartref i glwstwr o gwmn茂au sy'n gweithio o fewn y diwydiannau creadigol.
"Bydd y ganolfan yn hwb economaidd i gefn gwlad Sir Gaerfyrddin ac yn dod 芒 swyddi da i ardal lle mae'r Gymraeg dan bwysedd."
Ar ran y brifysgol, dywedodd llefarydd fod hwn "yn brosiect trawsnewidiol sy'n cynnig y cyfle i ddwyn ynghyd amcanion polisi economaidd, ieithyddol a diwylliannol Llywodraeth Cymru fel y nodwyd yn y rhaglen ar gyfer Llywodraeth, Symud Cymru Ymlaen".
"Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill wrth ddatblygu'r fenter hon, a fydd yn gatatalydd ar gyfer adfywiad economaidd a diwylliannol yn y rhanbarth."
Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan AC Plaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price, ac AC Arfon, Sian Gwenllian - oedd yn gynharach wedi galw ar S4C i ailystyried lleoliad ei phencadlys yn sgil yr ansicrwydd.
"Mae'n hanfodol nawr, wrth i ni geisio gweld mwy o'n sefydliadau cenedlaethol a'r sector gyhoeddus yn symud o Gaerdydd, ein bod ni'n edrych ar y broses ynghlwm 芒 phrosiect Yr Egin S4C a sut gallwn ni ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol", meddai.
Fe ddywedodd AC Ceidwadol Gorllewin Sir G芒r a De Penfro bod gan y cynllun "arwyddoc芒d economaidd a diwylliannol enfawr" i'r ardal.
Ychwanegodd Angela Burns: "Mae gorllewin Cymru yn ardal sydd 芒 brwdfrydedd creadigol enfawr ac rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at weld y gronfa hon o dalent yn cael ei ryddhau gan y cynllun."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2016