Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Perygl 'epidemig' am unigrwydd ymysg yr henoed
Mae perygl "epidemig" os nad oes dulliau newydd yn cael eu creu i fynd i'r afael ag unigrwydd, medd Swyddfa Comisiynydd Pobl H欧n Cymru.
Daw'r alwad wrth iddi ddod i'r amlwg y bydd cynllun yng Ngwynedd, oedd yn trefnu i wirfoddolwyr ymweld 芒'r henoed am sgwrs er mwyn ceisio lleddfu effaith unigedd, yn dod i ben ar ddiwedd y mis.
Roedd y cynllun pum mlynedd o'r enw Ffrindiau dan ofal Mantell Gwynedd, ac wedi derbyn 拢1m gan y Loteri Genedlaethol.
Mae pedwar aelod o staff llawn amser, oedd wedi'u cyflogi i drefnu cyfarfodydd 200 o wirfoddolwyr, wedi eu cyflogi gan y cynllun.
Fe fydd yr arian yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth.
'Taclo'r mater'
Dywedodd Iwan Williams o Swyddfa Comisiynydd Pobl H欧n Cymru bod y newydd am gau cynllun Ffrindiau yn ergyd fawr, a bod angen mynd ati o ddifrif i feddwl am ddulliau newydd o fynd i'r afael ag unigrwydd.
"Mae'n hollbwysig bod gennym ni amryw o weithgareddau, rhaglenni ac ymyriadau sy'n gallu taclo unigrwydd ledled Cymru," meddai.
"Mae'n bwysig i ni fod yn pro-active yngl欧n 芒 hyn a darparu gwasanaethau sy'n medru gwneud yn si诺r bod iechyd a lles pobl h欧n yn cael ei gynnal o fewn ein cymunedau.
"Rydyn ni'n ymwybodol bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu torri, felly mae'n rhaid i ni feddwl mewn ffyrdd newydd, creadigol ac arloesol yngl欧n 芒'r ffordd dy'n ni'n darparu gwasanaethau.
"Mae'n bosib, os nad ydyn ni o ddifrif o ran taclo'r mater difrifol yma, fe fydd yn epidemig o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru."
Un o'r rhai sy'n manteisio ar y cynllun yw Myra Williams o Gaernarfon, sy'n ei hwythdegau ac yn byw ar ei phen ei hun.
Ers iddi gael str么c dydi hi ddim yn gallu mynd allan ar ei phen ei hun.
Mae ei merch yn byw gerllaw ac mae hi'n galw yn rheolaidd ond mae ymweliadau Pat o'r cynllun Ffrindiau yn amhrisiadwy meddai Myra.
"Mae'n gwmpeini gwych i mi, ambell dro awn ni allan am dro bach a dro arall mi ddaw hi a fish a chips o'r dre i ni'n dwy gael cinio hefo'n gilydd," meddai.
"Rydan ni wedi dod yn ffrindiau da. Petai'r gwasanaeth yn dod i ben faswn i ddim yn medru mynd allan o'r t欧 ac mi fasa'n rhaid i mi ddibynnu ar fy merch, a dydi hi ddim yn gallu bod ym mhob man."
Cyllid
Dywedodd rheolwr cynllun Ffrindiau, Carys Williams wrth raglen Post Cyntaf: "Prosiect am bum mlynedd oedd o, yn cael ei gyllido drwy gronfa'r Loteri Fawr ac mae'r pum mlynedd yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth.
"Mae hynny'n drist gan fod y cynllun wedi profi'n llwyddiannus iawn drwy gefnogaeth y tri chydlynydd yn Arfon, Dwyfor a Meirionnydd.
"Mae 'na dros 200 o wirfoddolwyr wedi cefnogi'r cynllun yma. Ond tristwch arian prosiect yw mai dros gyfnod penodol mae o."
Dywedodd cydlynydd y cynllun yn Arfon, Alan Thomas fod rhai o'r bobol oedrannus yn eu dagrau pan oedd o'n gorfod dweud wrthyn nhw fod y cynllun yn dod i ben.
"Mae'r budd mae'r bobl oedrannus wedi'i gael yn fwy na gwerthfawr - does 'na ddim pris arno fo," meddai.