Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Archwiliad yn cwestiynu cytundeb coed Cyfoeth Naturiol Cymru
Cafodd cytundeb 10 mlynedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i werthu coed i felin lifio ei wneud heb fod cwmn茂au eraill yn cael cynnig, yn 么l Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas.
Am 拢39m, mae'r cwmni llifio yn prynu tua chwarter y coed sy'n cael eu rhyddhau gan CNC bob blwyddyn.
Ond dywedodd yr archwilydd nad oedd yn gallu penderfynu a oedd y cytundeb yn un cyfreithlon, gan ddweud ei fod yn "amau" y gallai hefyd fod yn torri rheolau Ewropeaidd ar gymorth gan y wladwriaeth.
Mae CNC wedi herio canfyddiadau'r archwiliad.
Coed wedi difetha
Cafodd yr honiadau eu gwneud mewn ymateb gan Mr Thomas i gyfrifon CNC yn 2015/16, a ddywedodd nad oedd y broses o wneud penderfyniadau yn un tryloyw.
Mae CNC wedi gwrthod datgelu pwy yw'r cwmni er gwaethaf cais gan 大象传媒 Cymru, gan ddweud bod y mater yn "fasnachol sensitif".
Fel rhan o'r cytundeb roedd disgwyl i'r cwmni adeiladu a gweithredu melin lifio newydd erbyn 31 Mawrth 2016, ond cafodd yr amod hwnnw ei ymestyn yn ddiweddarach am flwyddyn arall.
Dyw CNC heb gadarhau a yw'r amod newyd wedi cael ei gyrraedd ai peidio.
Ychwanegodd y corff nad oedd ganddyn nhw ddewis wrth arwyddo'r cytundeb yn 2014, fyddai'n gweld y cwmni llifio yn cael gwared 芒 choed oedd wedi'u difetha gan fath o ffwng, a'i fod yn annhebygol y byddai cwmniau eraill 芒 diddordeb yn y gwaith.
Roedd lledaeniad afiechyd P Ranorum, a ddigwyddodd ym mlwyddyn gyntaf bodolaeth CNC, wedi achosi'r amgylchiadau arbennig hynny, meddai'r corff.
Ond dywedodd Mr Thomas ei fod yn credu bod cytundeb 10 mlynedd yn un allai fod wedi bod o ddiddordeb i gwmn茂au eraill, a bod y ffaith na chafodd y mater ei gyfeirio at Lywodraeth Cymru yn "afreolaidd".
Doedd CNC ddim chwaith wedi darparu digon o ddogfennau fel tystiolaeth i ddangos beth wnaethon nhw ystyried wrth benderfynu ar y cytundeb.
"Oherwydd y diffyg tystiolaeth, dydw i ddim wedi fy argyhoeddi bod penderfyniad CNC i gytuno i'r cytundebau hyn gyda gweithredwr y felin lifio wedi'i chymryd yn unol ag egwyddorion cyfraith gyhoeddus," meddai Mr Thomas.
Ychwanegodd yr archwilydd nad oedd hynny'n golygu bod y cytundebau yn anghyfreithlon neu ddim werth yr arian.
'Dysgu gwersi'
Fodd bynnag, mae CNC wedi herio canfyddiadau'r archwilydd o ran y gyfraith a chymorth gan y wladwriaeth, gan ychwanegu eu bod yn credu bod y cytundebau yn gyfreithlon a bod ganddynt gyngor cyfreithiol oedd yn cefnogi eu safbwynt.
"Rydyn ni'n siomedig gyda chanfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru yngl欧n ag agweddau rhai o'r cytundebau hir dymor," meddai Kevin Ingram o CNC.
"Wedi dweud hynny mae gennym gynlluniau er mwyn dysgu'r gwersi o hyn a sicrhau trefniadau rheolaeth cryfach fyth yn y dyfodol."
Ychwanegodd fod yr archwiliad ac adroddiadau eraill wedi dangos bod "CNC yn gorff sydd wedi'i reoli'n dda. Rydyn ni'n falch ei fod wedi dod i'r casgliad bod ein adroddiadau ariannol yn deg a chywir".
Dywedodd cadeirydd pwyllgor cyfrifon cyhoeddus y Cynulliad fodd bynnag ei fod yn "bryderus iawn" am yr adroddiad.
"Mae'n bwysig nawr bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cwestiynu swyddogion o'r corff mor fuan 芒 phosib," meddai Nick Ramsay AC.
Bydd y mater yn cael ei drafod yn y pwyllgor cyllid ddydd Mercher, ac fe ddywedodd ei gadeirydd hithau Simon Thomas AC fod angen "deall beth sydd wedi digwydd".
"Rwy'n bryderus nad yw CNC i'w weld yn sylweddoli yn eu cyfrifon pa mor ddifrifol yw'r mater hwn," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei fod yn fater i Gyfoeth Naturiol Cymru, ond y byddan nhw'n gweithio gyda'r corff i "daclo'r materion sydd wedi codi".