Cwis: Gwarchod yr enwau

Ffynhonnell y llun, Cyngor Caerffili

Disgrifiad o'r llun, Ai llun wedi crymanu fel hyn yw ystyr Crymlyn yng Nghaerffili?

Faint ydych chi'n ei wybod am darddiad rhai o enwau lleoedd Cymru? Rhowch gynnig arni.

(Mae'r atebion ar y gwaelod)

1. Sblot

Mae enw un o faestrefi Caerdydd yn deillio o:

a) Yr Hen Gymraeg am 'Sboldaich' sy'n golygu ffos

b) Hen arferiad o ollwng cerrig i'r Afon T芒f i fesur dyfnder

c) O'r Saesneg plot, sef darn o dir

2. Caersws

Mae'r dref fechan ym Mhowys wedi'i henwi ar 么l:

a) Y frenhines Swys

b) Y gusan gyntaf yng Nghymru

c) Safle casgliad mwya'r byd o rywogaethau anifeiliad yn y 10ed ganrif

Ffynhonnell y llun, Eirian Evans

Disgrifiad o'r llun, Gawsoch chi 'rioed sws yma?

3. Prion

Mae'r pentref yn Sir Ddinbych wedi ei enwi ar 么l:

a) Hen briordy lleol

b) Y gair 'purion', sef perffaith

c) Sant o'r 8fed ganrif

4) Crymlyn

Mae'r pentref yn Sir Caerffili wedi ei enwi ar 么l:

a) Y traddodiad lleol o grymanu gwair

b) Crum, llywodraethwr Rhufeinig y rhan hon o'r de ddwyrain ar un adeg

c) 'Llyn crwm', sef llyn sydd 芒 thro ynddo

5) Rhydyclafdy

Mae'r pentref ym Mhen Ll欧n wedi cael ei enw oherwydd:

a) Afon Clafdy sy'n rhedeg trwy'r pentref

b) Roedd ysbyty i'r gwahanglwyfion yno ar un adeg

c) Y meistr tir Syr Edward Clafdy yn y 16eg ganrif

Ffynhonnell y llun, Alan Fryer

Disgrifiad o'r llun, Oedd 'na hen ysbyty gerllaw?

6) Slebets

Mae enw'r pentref rhwng Arberth a Hwlffordd yn Sir Benfro wedi ei enwi ar 么l:

a) Yr hen air Saesneg bec, sef nant

b) Gwin a oedd yn cael ei gynhyrchu gan fynachod

c) Enwogion o'r Oesoedd Canol oedd yn dod i gamblo

7) Plwmp

Mae'r pentref yng Ngheredigion wedi cael ei enw arferol oherwydd:

a) Fod olion plwm yma ar un adeg

b) Ei fod, yn yr 16eg ganrif, yn fan poblogaidd i bobl Sir Aberteifi i ddatrys anghydfod ac i ddweud eu dweud "yn blwmp ac yn blaen"

c) Pwmp d诺r (ar fuarth fferm yn wreiddiol)

8) Llannerch-y-medd

Cafodd y pentref yn Ynys M么n ei enw oherwydd:

a) Y pentref oedd yr unig ran o Ynys M么n oedd o dan reolaeth awdurdodau'r tir mawr ar un adeg

b) Roedd medd, y ddiod, yn cael ei gynhyrchu yma

c) Roedd hi'n ardal goediog tan i'r Tywysog Medd losgi'r coed gan greu digon o le i godi bythynnod i'w bobl

Ffynhonnell y llun, Roger Gilbertson

Disgrifiad o'r llun, Lleoliad coedwig fawr ar un adeg?

9) Bryn Saith Marchog

Cafodd y pentref ei enwi ar 么l:

a) Sant fu gynt yn filwr

b) Saith o filwyr Owain Glynd诺r gafodd eu lladd gan luoedd Iarll de Grey

c) Marchogion unigol a oedd yn 么l chwedl yn gwarchod bryniau Clwyd rhag y diafol

Atebion:

1). c

2). a

3). b

4). c

5). b

6). a

7). c

8). b

9). a