Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ymchwiliad M4: Cyhuddo'r llywodraeth o 'orliwio' buddiannau
Mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyhuddo o "orliwio" y buddiannau o gael rhan newydd o'r M4 ac o "gamarwain" y cyhoedd.
Mae cyn arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Pippa Bartolotti, hefyd wedi codi pryderon am yr effaith ar yr amgylchedd.
Roedd hi'n siarad yn ystod yr ymchwiliad cyhoeddus yng Nghasnewydd i'r cynigion i adeiladu rhan newydd o'r M4.
Dyma'r diwrnod cyntaf i wrthwynebwyr y cynllun gael cyfle i gyflwyno eu hochr nhw o'r ddadl.
Ond mae rheolwr y prosiect, sydd yn gweithio i'r llywodraeth, wedi gwadu'r cyhuddiadau gan ddweud bod yna dystiolaeth i gefnogi'r wybodaeth.
Mae'r llywodraeth yn hawlio bydd y ffordd yn dod a 拢1.62bn o fudd uniongyrchol i Gymru.
Dadlau yn erbyn hynny mae Ms Bartolotti gan ddweud bod taflen gan Lywodraeth Cymru yn gyfystyr a "cham wybodaeth".
Dywedodd bod rhai o'r ffeithiau yn y ddogfen yngl欧n 芒'r budd economaidd, swyddi, a'r effaith amgylcheddol wedi eu "gorliwio", "eu dal yn 么l" neu mewn rhai achosion yn "ffug".
Dywedodd hefyd y dylai'r holl gostau a threuliau yngl欧n 芒'r llwybr du sydd yn cael ei ffafrio gael eu cyfeirio at Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn cael eu craffu.
Yn 么l Ms Bartolotti:
- Y "senario gorau" yw bod 6,500 o swyddi newydd yn cael eu creu gyda chais rhyddid gwybodaeth yn dangos mai'r "senario isaf" oedd 750 o swyddi
- Mae ffigyrau ansawdd yr aer yn gamarweiniol gan nad yw'n ystyried tagfeydd cynyddol yng Nghaerdydd
- Mae honiadau byddai siwrneiau teithwyr yn cael eu lleihau 10 munud yn anghywir ac mai lleihau'r siwrnai rhwng 3.5 a 5 munud fyddai'r llwybr newydd
Ond mae rheolwr y prosiect Matt Jones yn dweud nad yw'r wybodaeth, a roddwyd gan Lywodraeth Cymru mewn ymgyrch ymgysylltu, yn gamarweiniol.
Dywedodd bod graffeg gwybodaeth, sydd wedi ei gwestiynu, wedi ei rhoi gyda dogfennau eraill mwy manwl y gallai'r cyhoedd edrych arnynt.
Mae disgwyl i'r ymchwiliad cyhoeddus bara am bum mis.