Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwerthu tocynnau Gig y Pafiliwn yr Eisteddfod mewn oriau
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau bod tocynnau ar gyfer Gig y Pafiliwn eleni wedi eu gwerthu o fewn ychydig oriau ddydd Llun.
Yn dilyn llwyddiant y noson y llynedd, gafodd ei chyflwyno gan Huw Stephens, fe fydd nifer o leisiau amlwg y S卯n Roc Gymraeg yn dychwelyd ar gyfer perfformiadau arbennig i gyfeiliant y Welsh Pops Orchestra ar nos Iau'r brifwyl.
Yn perfformio eleni fydd Yws Gwynedd, Yr Eira, Alys Williams a'r band, a'r rapiwr Mr Phormula.
Aeth y tocynnau ar werth am 10:00 ddydd Llun, ac roedd bron i 1,500 wedi eu gwerthu cyn 17:00.
'Llwyddiant mawr'
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts: "Mae'r gwerthiant tocynnau ar y diwrnod cyntaf wedi bod yn ardderchog, ac mae Gig y Pafiliwn wedi llwyddo i werthu allan mewn ychydig oriau.
"Bu'r gig gyntaf i ni'i chynnal yn y Pafiliwn y llynedd yn llwyddiant mawr ac rydym wedi llwyddo i ddenu rhai o s锚r mwya'r s卯n atom eto eleni.
"Mae hon yn sicr o fod yn noson dda."
Dywedodd llefarydd ar ran y brifwyl mai dyma un o'r cyngherddau cyntaf i werthu allan yn hanes yr Eisteddfod, ac mae'r digwyddiadau eraill yn prysur lenwi.
"Mae bron i hanner tocynnau ar gyfer noson Tudur Owen yn y Pafiliwn wedi gwerthu allan hefyd." Ychwanegodd y llefarydd.
Fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ger pentref Bodedern yn Ynys M么n rhwng 4-10 Awst.