Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhybudd i rieni am 'drafferth' cael gofal plant am ddim
Mae cymdeithas meithrinfeydd wedi rhybuddio y gallai miloedd o rieni ei chael hi'n anodd cael gofal plant am ddim, oedd yn un o addewidion Llywodraeth Cymru.
Mae'r Gymdeithas Meithrinfeydd Dydd Cenedlaethol (NDNA) yn dweud bod diffyg nawdd, a chynnydd mewn costau, yn golygu y bydd nifer yn ei chael hi'n anodd goroesi.
Roedd cynnig 30 awr o ofal am ddim i blant rhwng tair a phedair oed yn un o brif bolis茂au Llafur yn etholiadau'r Cynulliad yn 2016.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai gwasanaethau preifat yn chwarae r么l ganolog wrth weithredu'r polisi, ac y byddai'r polisi yn cael ei selio ar gynlluniau peilot.
'Colled ariannol'
Mae arolwg NDNA Cymru yn awgrymu fod un ym mhob pum meithrinfa yn poeni am y cynllun, a bron i hanner yn amheus neu'n annhebygol o gynnig y polisi.
Fe wnaeth tua un ym mhob pum meithrinfa gymryd rhan yn yr arolwg, gyda'r mwyafrif yn feithrinfeydd preifat.
Dywedodd prif weithredwr NDNA, Purnima Tanuku: "Mae meithrinfeydd eisiau cynnig eu gwasanaeth i deuluoedd sy'n gymwys i gael y gofal plant am ddim.
"Ond does dim modd iddyn nhw wneud hyn os fydd derbyn plant i gael gofal 'am ddim' am 30 awr yn achosi colled ariannol iddyn nhw, allai olygu eu bod nhw'n gorfod cau fel busnes."
Mae llefarydd ar ran y Ceidwadwyr wedi ymateb drwy ddweud bod yr adroddiad yn dangos "amheuon difrifol" yngl欧n 芒'r cynllun gofal am ddim i blant.
Dywedodd llefarydd y blaid ar blant, Darren Millar AC: "Mae'n gwbl glir bod meithrinfeydd ar hyd y sector yn ei gweld hi'n anodd oherwydd diffyg o ran cyllidebau, a'r ffordd wael mae gweinidogion Llafur wedi ymdrin 芒'r cyfraddau busnes newydd, gyda nifer o ofalwyr oherwydd hyn yn gwneud colledion ariannol."
Cynllun peilot
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ar 么l ei weithredu, cynnig Llafur Cymru i rieni sy'n gweithio i dderbyn gofal plant am ddim fydd y gorau yn y DU.
"Yn wahanol i'r blaid Geidwadol yn Lloegr, sydd wedi neidio i mewn a gweithredu'n frysiog gyda'i chynlluniau gofal plant ac yn cael ei feirniadu'n eang, rydym yn bwrw 'mlaen gyda'r peilot er mwyn sicrhau bod y cynllun yn gweithio'n effeithiol ar gyfer rhieni o'r diwrnod cyntaf.
"Bydd darparwyr preifat yn chwarae r么l ganolog wrth gyflawni ein cynnig.
"Bydd gan ddarparwyr gofal plant yng Nghymru'r hawl i lefel uwch o gefnogaeth drwy ein cynllun cymorth 拢100m o ryddhad ardrethi i fusnesau bach."