Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw am gynllun dychwelyd poteli i leihau sbwriel
Mae galwadau wedi cael eu gwneud o'r newydd gan elusen amgylcheddol i gyflwyno cynllun dychwelyd poteli yng Nghymru.
Dywedodd y Gymdeithas Cadwraeth Forol (MCS) bod ffigyrau'n dangos "cynnydd cyson" yn nifer y caeadau a photeli gwydr sy'n cael eu canfod ar draethau Cymru dros y pum mlynedd diwethaf.
Yn y gorffennol mae ymgyrchwyr wedi galw am gyflwyno cynllun ble byddai'n rhaid i siopwyr dalu blaendal wrth brynu caniau a photeli, gyda'r arian yn cael ei ad-dalu pan fyddan nhw'n cael eu dychwelyd yn wag.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n comisiynu astudiaeth yn ystyried manteision cynllun poteli o'r fath.
Astudiaeth
Mae MCS wedi sefydlu deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cynllun ar gyfer poteli, ac yn dweud bod ymgyrch debyg yn yr Alban wedi denu cefnogaeth gwleidyddion yn ogystal 芒 chwmni Coca-Cola.
"Mae cynlluniau dychwelyd blaendal wedi cynyddu lefelau ailgylchu safon uchel i dros 90% mewn rhannau eraill o'r byd, a lleihau sbwriel," meddai Dr Sue Kinsey, arbenigwr technegol gydag MCS.
"Dychmygwch hynny yng Nghymru. Hefyd, petai bocsys prydau parod yng Nghymru i gyd yn rai allai gompostio'n llawn, byddai hynny'n cael effaith bositif tu hwnt ar lefel y sbwriel ar draethau Cymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai'r ymchwil maen nhw wedi ei gomisiynu yn edrych ar becynnu bwyd a diod yng Nghymru, yn ogystal 芒 manteision posib cyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer poteli.
"Bydd yr astudiaeth yn canfod ac yn canolbwyntio ar y gwastraff sydd yn cael yr effaith amgylcheddol fwyaf," meddai'r llefarydd.