Rheilffordd Llyn Tegid i ehangu yn sgil buddsoddiad

Fe fydd rheilffordd hanesyddol yng Ngwynedd yn ehangu ar 么l derbyn arian loteri.

Mae Rheilffordd Llyn Tegid yn mynd ag ymwelwyr ar daith naw milltir drwy Barc Cenedlaethol Eryri.

Maen nhw wedi cael 拢38,500 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i wneud mwy o le i gerbydau yng ngorsaf Llanuwchllyn.

Bydd arian hefyd yn mynd tuag at wella cyfleusterau gan gynnwys creu mynediad i'r anabl ac arddangosfeydd.

Dywedodd arweinydd y prosiect, Julian Birley: "Dyw'r cyfleusterau presennol ddim yn ddigonol a ddim yn gadael i ni ehangu, yn enwedig o ystyried y cynnydd yn ein casgliad o drenau hanesyddol a stoc sy'n cael ei ddefnyddio."

Daw'r arian wedi cyhoeddi yn gynharach eleni bod y rheilffordd wedi cael tir i adeiladu gorsaf newydd yn nhre'r Bala.