Y Ddraig Goch neu Jac yr Undeb?

Ffynhonnell y llun, Matt Cardy

Does dim troi 'n么l. Mae Erthygl 50 wedi ei thanio ac mae'r gwaith o ymadael 芒'r Undeb Ewropeaidd wedi dechrau.

Fe bleidleisiodd mwyafrif pobl Cymru o blaid Brexit yn y refferendwm yn 2016, ond pa mor bwysig oedd hunaniaeth wrth i'r etholwyr fentro i'r gorsafoedd pleidleisio?

Yr ystadegydd Dafydd Elfryn sydd wedi bod yn edrych ar y ffigyrau ar ran Cymru Fyw:

Ma' Brexit ymhobman y dyddiau yma. Ynghlwm 芒 phob eitem newyddion ar y teledu, neu erthygl bapur newydd, mae 'na siawns da fydd 'na lun Jac yr Undeb yn rhywle.

Mae'r faner wedi dod yn symbol, er gwell neu er gwaeth, am bopeth sydd yn gysylltiedig 芒'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond pa mor berthnasol ydy'r fflag yma yng Nghymru? Ydy Prydeindod yn perthyn i Gymru fodern? Ac os ydy o - oes perthynas rhwng Prydeindod a phleidlais Brexit?

Un o'r cwestiynau yng nghyfrifiad 2011 oedd 'beth ydy eich hunaniaeth genedlaethol (national identity)?'

Dyma sut roedd poblogaeth Cymru yn adnabod eu hunain:

17% o boblogaeth Cymru oedd yn adnabod eu hunain fel Prydeinwyr yn unig. Mae'r ffigwr yn codi i 25.7% wrth ystyried rhai sydd yn rhannol Brydeinwyr (e.e. Prydeinwyr Cymreig, Prydeinwyr Saesneg ayyb).

Mae'r canlyniadau yma'n eithaf tebyg i'r ffigwr yn Lloegr - gyda 19.2% yn adnabod eu hunain fel Prydeinwyr yn unig, a 28.6% yn rhannol Brydeinwyr.

Er gwybodaeth, mae 0.5% o boblogaeth Lloegr yn adnabod eu hunain fel Cymry yn unig!

Wrth gwrs, rhaid cofio mai ffigyrau o 2011 sydd y tu 么l i'r rhain - ac mae'r byd yn lle dipyn gwahanol heddiw.

Er hyn, dyma'r data mwyaf manwl sydd ar gael i ni ar hyn o bryd - tan y cyfrifiad nesaf!

Ffynhonnell y llun, Dafydd Elfryn/Twitter

Disgrifiad o'r llun, Dafydd Elfryn

Oedran

Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n ystyried eu hunain yn Brydeinig rhwng 40 a 60 oed ac wedi eu geni rhwng 1951 a 1971, yn 么l amser y cyfrifiad.

Ar 么l 70 oed, mae'r niferoedd yn disgyn yn sylweddol:

Mi fyswn i wedi meddwl bod y genhedlaeth yma, a gafodd eu geni cyn 1941, a dyfodd i fyny yn agos i'r Ail Ryfel Byd, wedi teimlo'n fwy Prydeinig.

Mae cymaint o s么n am undod Prydeinig yr adeg hon (y "Blitz spirit" ayyb), mae'n rhyfedd felly nad ydy hyn yn cael ei adlewyrchu yn y ffigyrau.

Mapio'r Prydeinwyr

Mae'r map isod yn dangos pa ganran o boblogaeth pob ardal sydd yn adnabod eu hunain fel Prydeinwyr (unai yn llwyr neu'n rhannol).

Mae'r crynodiad fwyaf i weld i lawr y ffin 芒 Lloegr, ac ar hyd arfordir y de.

Yr ardal fwyaf "Prydeinig" ydy ardal Grangetown yng Nghaerdydd, ble mae 49% o'r trigolion yn adnabod eu hunain fel Prydeinwyr o ryw fath.

Ar y pegwn arall mae ardal Peblig, Caernarfon, gyda chanran isel o 9.8%.

Wrth edrych ar lefel sirol, Sir Fynwy sydd hefo'r canran uchaf gyda 34.1% o'r boblogaeth yn ystyried eu hunain yn Brydeinwyr. Merthyr sydd ar waelod y rhestr, gyda dim ond 18.6%.

Prydeindod a Brexit

Wrth gymharu'r ffigyrau hunaniaeth Brydeinig sirol yma hefo canlyniadau'r bleidlais Brexit, 'dan ni'n cael canlyniad reit annisgwyl.

Mae'n dangos nad oes perthynas rhwng hunaniaeth Brydeinig a'r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r siart isod yn cymharu'r niferoedd:

Mae ardaloedd fwy "Prydeinig", fel Caerdydd a Sir Fynwy, yn llai tebygol o fod wedi pleidleisio am adael y UE, tra bod llefydd llai "Prydeinig", fel Blaenau Gwent, Torfaen a Chaerffili, wedi pleidleisio'n gryf i adael.