Galw am sicrhau dyfodol ffordd Coedwig Cwmcarn

Mae dros 1,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd i sicrhau bod ffordd wledig yn ailagor y flwyddyn nesaf.

Fe wnaeth y llwybr yng nghoedwig Cwmcarn gau i geir yn 2014 wrth i filoedd o goed gael eu torri i lawr i atal haint rhag lledaenu.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) nad oedd yn gallu fforddio ailagor yr ardal os nad yw'n cael ei "reoli'n wahanol".

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y pryderon, ond dywedodd swyddogion ei fod yn synhwyrol i aros am ganlyniad astudiaeth ymarferoldeb.

Torri 150,000 o goed

Roedd coed llarwydd ar tua 860 hectar o'r ardal, ac roedd cynllun i dorri hyd at 150,000 ohonynt wedi iddyn nhw gael eu heintio gyda chlefyd phytophthora ramorum.

Mae contractwyr hanner ffordd drwy'r gwaith, ac mae cymysgedd o goed derw, pinwydd a chonwydd yn cael eu plannu yn eu lle.

Y gobaith yw y bydd y mathau yma'n gallu gwrthsefyll heintiau yn well.

Er i lwybrau cerdded a beicio gael eu hagor, dywedodd CNC nad oedd ganddyn nhw'r gyllideb i wneud yr un peth gyda'r ffordd.

Pan oedd ar agor, roedd gyrwyr yn gorfod talu i ddefnyddio'r llwybr saith milltir o hyd, ond nid oedd yn gwneud elw.

Dywedodd Sally Tansey o CNC bod astudiaeth yn edrych ar ffyrdd o ariannu'r llwybr yn wahanol.

"Am y tro cyntaf rydyn ni'n edrych mewn ffordd agored ar yr asedau sydd gyda ni, yr asedau sydd gan Gyngor Sir Caerffili - mae gyda nhw'r ganolfan ymwelwyr a meysydd gwersylla, a ni'r llwybr gyrru," meddai.

"Dyma'r tro cyntaf rydyn ni'n edrych ar os all rywun wneud defnydd gwell o'r asedau petai rhywun yn rheoli pob un."

Dywedodd Rob Southall o gr诺p Cyfeillion Fforest Cwmcarn bod agor y llwybr yn bwysig er mwyn i bobl hyn a phobl anabl fwynhau'r "golygfeydd bendigedig".

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod rheoli'r llwybr yn benderfyniad i CNC: "Rydyn ni'n cydnabod pryderon y gymuned leol ond yn credu ei fod yn synhwyrol i aros am ganlyniad gwaith y mae CNC a Chyngor Caerffili yn ei wneud."