Tawel Fan: 'Safon gofal' yn cyfrannu at farwolaethau?

Mae 大象传媒 Cymru'n deall bod safon y gofal ar ward cleifion dementia Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd wedi gallu cyfrannu at o leiaf saith marwolaeth.

Roedd Adroddiad Ockenden yn 2015 yn hynod feirniadol o'r "camdriniaeth sefydliadol" oedd yn bodoli ar ward Tawel Fan.

Dywed Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr oedd yn gyfrifol am y ward eu bod yn cydnabod y gallai safon y gofal oedd wedi ei roi fod yn ffactor oedd wedi cyfrannu at farwolaeth rhai cleifion, a bod ymchwiliad trylwyr yn cael ei gynnal i bob achos ar hyn o bryd.

Teulu

Mae teulu un claf oedd ar y ward wedi siarad gyda 大象传媒 Cymru. Doedden nhw ddim am ddatgelu eu henwau ac maen nhw'n dweud eu bod yn parhau wedi eu hysgwyd gan yr hyn ddigwyddodd.

Maen nhw'n dweud eu bod wedi cael clywed fod y gofal meddygol ar y ward yn annigonol.

Ffynhonnell y llun, BIPBC

Mae 大象传媒 Cymru wedi gweld gohebiaeth lle mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ymddiheuro i'r teulu. Dywed un llythyr fod "arbenigwyr wedi darganfod fod problemau yn y gofal iechyd a gallai hynny fod wedi cyfrannu at y farwolaeth."

Dywed y llythyr hefyd fod y "bwrdd wedi ei ymrwymo'n llawn mewn ymdrech fanwl i ddarganfod y gwir am ward Tawel Fan."

Ond mae aelodau'r teulu sydd wedi siarad gyda 大象传媒 Cymru yn parhau i fod heb eu darbwyllo fod gwersi wedi eu dysgu.

Roedd sgandal ward Tawel Fan yn un o'r rhesymau pam y cafodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei osod mewn mesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru. Mae'r sefyllfa honno'n parhau, gyda'r mesurau arbennig yn costio 拢5m y flwyddyn i'r bwrdd iechyd.

Bwrdd iechyd

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr:

"Rydym yn cydnabod y gallai safon y gofal a oedd wedi ei roi fod yn ffactor oedd wedi cyfrannu at farwolaeth rhai cleifion. Os mai hyn oedd yr achos yna fe fydd yn cael ei ddarganfod fel rhan o ymchwiliad annibynnol y Gwasanaeth Cynghori Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd.

"Er mwyn darganfod os oedd safon y gofal wedi cyfrannu at farwolaeth unrhyw glaf, bydd pob agwedd o ofal y claf yn cael ei hymchwilio. Mae hon yn broses gymhleth a hir, ac mae'n rhaid iddi gael ei chwblhau i benderfynu os oedd y gofal a roddwyd yn ffactor oedd wedi cyfrannu at farwolaeth unrhyw glaf neu beidio.

"Bydd pob teulu sy'n rhan o'r ymchwiliad yn derbyn adroddiad unigol yn manylu ar y gofal oedd wedi ei roi i aelodau eu teulu. Bydd yr adroddiadau hyn o gymorth i ddarganfyddiadau ymchwiliad Tawel Fan."

Adroddiad cychwynnol

Cafodd adroddiad cychwynnol yn edrych ar yr hyn ddigwyddodd ar y ward ei gyhoeddi bron i dair blynedd yn 么l. Mae disgwyl y bydd dau adroddiad arall yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach eleni.

Mae'n debyg y bydd un adroddiad - gan y Gwasanaeth Cynghori Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSCAS) yn cynnwys adolygiad o farwolaethau cleifion ar ward Tawel Fan.

Ond dywed Geoff Ryall-Harvey, sy'n arwain Cyngor Iechyd Cymunedol Gogledd Cymru, y dylai'r adroddiad gael ei gyhoeddi cyn gynted a phosib.

Disgrifiad o'r llun, Geoff Ryall-Harvey yw pennaeth Cyngor Iechyd Cymunedol Gogledd Cymru - y corff annibynnol sy'n cynrychioli llais cleifion a defnyddwyr y gwasanaeth iechyd

"Fe fydd yn dod yn wybodaeth gyhoeddus ac mewn gwirionedd yr hyn yr ydym wedi ei ddysgu o'r holl bethau yma ydi fod angen iddo fod ar lwyfan cyhoeddus", meddai.

Mae hefyd o'r farn y dylai'r gwersi sy'n cael eu dysgu yng ngogledd Cymru addysgu byrddau iechyd mewn ardaloedd eraill:

"Fe allai stopio'r arfer yma mewn ardaloedd eraill. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ryddhau'r dogfennau hyn cyn gynted a phosib".