Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Agor estyniad Clwb Rygbi'r Bala er cof am Yogi
Bydd estyniad newydd i glwb rygbi'r Bala yn cael ei agor yn swyddogol dros y penwythnos, a hynny er cof am un o hoelion wyth y clwb.
Stafell Yogi fydd yr enw ar yr estyniad, ar 么l y diweddar Bryan 'Yogi' Davies. Bu farw Yogi yn 56 oed yn 2013, chwe blynedd wedi iddo gael ei barlysu mewn g锚m rygbi.
Mae adeiladu'r estyniad newydd yn gwireddu breuddwyd Yogi o gael lle i blant fwyta a chymysgu ar 么l g锚m o rygbi.
Mi fydd yr ystafell ar gael at ddefnydd y gymuned hefyd.
Mae'r cynllun cyfan wedi costio 拢200,000, efo'r clwb a gwirfoddolwyr yn codi 拢40,000 ohono a'r gweddill yn dod mewn grantiau.
Mae Bryan Yogi Davies yn cael ei gofio am ei waith diflino dros y clwb mewn nifer o ffyrdd gwahanol, ond yn arbennig am ei waith yn hyfforddi plant a phobl ifanc.
Un sy'n ddyledus iawn iddo ydi Ilan Rowlands, capten Clwb Rygbi'r Bala: "Mi oeddwn i'n 10 oed pan ddaru fi ddechre chware rygbi a dwi wedi bod wrthi ers pymtheg mlynedd bellach.
"Mi ddos i nabod Yogi yn reit ifanc. Roedd o'n dysgu lot o blant eraill gwahanol oedran yn y clwb.
"Roedd o'n ysbrydoliaeth i'r bechgyn ifanc i gyd. Roedd o'n ffantastig a dweud y gwir.
"Mae'r estyniad wedi ei wneud achos fo a'i waith caled. Mi wnaeth hyn ar gyfer y pobl ifanc a dyfodol y clwb - hebddo fo, dwi'm yn meddwl y basen ni lle ydan ni fel clwb rwan."
Dywedodd Tony Parry, cadeirydd Clwb Rygbi'r Bala a ffrind mawr i Yogi, fod yr estyniad newydd yn hollbwysig i ddyfodol y clwb ac yn arbennig o bwysig o ran pobl ifanc.
"Mi fydd tua 60 o blant yn gallu eistedd yn gyfforddus dan do rwan i gael bwyd blasus o'r gegin newydd yno," meddai.
"Mae pethau'n mynd yn dda iawn efo'r clwb rygbi, yn ogystal 芒'r t卯m cynta mae 'na ail dim hefyd a th卯m ieuenctid... hefyd mae ganddom ni dimau dan 14, 12 a 10 oed a'r flwyddyn nesa y gobaith ydi cael dau d卯m merched hefyd.
"Darn pwysig efo Yogi oedd cael yr estyniad ma i fyny... darn pwysig o glwb rygbi'r Bala oedd yr ieuenctid i Yogi. Pan fydd yr estyniad yn cael ei agor ar 6 Mai dwi'n meddwl y bydd o'n eistedd i fyny yn fane yn sbio lawr a gw锚n ar ei wyneb."
Mae Ilan a Teleri Davies, plant Yogi yn dilyn yn 么l troed eu tad ac yn gweithio'n brysur dros y clwb.
"Dyma oedd breuddwyd fy nhad," meddai Teleri. "Cael lle i blant gymdeithasu wedi'r g锚m ac i wneud ffrindiau newydd, a bod rygbi yn fwy na g锚m ar y cae, mae'n gymuned hefyd. Dwi'n gwybod y base fo'n hynod o falch o beth sydd wedi cael ei gyflawni."
Dennis Gethin, Llywydd Undeb Rygbi Cymru fydd yn agor Stafell Yogi yn swyddogol am 12.30 bnawn Sadwrn 6 Mai.