Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pryder am ddiffyg cynghorwyr benywaidd yng Nghymru
Mae dau sefydliad wedi mynegi pryder am y diffyg cynrychiolaeth o fenywod ar gynghorau Cymru yn dilyn yr etholiad ddydd Iau diwethaf.
Mae elusen cydraddoldeb Chwarae Teg a sefydliad ERS Cymru, sy'n ymgyrchu dros ddemocratiaeth, yn dweud mai dim ond 359 o fenywod gafodd eu hethol o'r 1,254 o gynghorwyr.
Ar Ynys M么n y mae'r sefyllfa ar ei gwaethaf, gyda dim ond 10% o'r aelodau newydd yn fenywaidd, a chanran debyg sydd ym Mlaenau Gwent, Ceredigion a Merthyr Tudful.
Abertawe a Rhondda Cynon Taf sydd 芒'r canrannau uchaf o fenywod gyda'r ddau awdurdod yn cynnwys ychydig dros 41% o gynghorwyr benywaidd.
Y canran ar gyfartaledd dros Gymru yw 27%, ac er bod hynny fymryn yn uwch nag yn 2012 (26%) mae'r sefydliadau'n bryderus am y diffyg gwelliant yn y maes.
'Gwneud cam 芒'r etholwyr'
Dywedodd cyfarwyddwr ERS Cymru, Jess Blair: "Mae'r canlyniadau wedi cadarnhau ein pryderon y bydd cynghorau ar draws Cymru unwaith eto o dan dra-arglwyddiaeth dynion am y pum mlynedd nesaf.
"Gyda phrin chwarter y cynghorwyr yn fenywod, ni fydd holl ystod y profiad a'r dalent sydd gennym yng Nghymru'n cael ei adlewyrchu yn ein cynghorau.
"Mae methiant ein pleidiau ac awdurdodau lleol i weithredu i annog a hwyluso mwy o fenywod i ddod yn gynghorwyr yn gwneud cam 芒'r etholwyr ac 芒 gwleidyddiaeth yng Nghymru."
'Argyfwng amrywiaeth'
Ychwanegodd prif weithredwr elusen Chwarae Teg, Cerys Furlong: "Mae'r ffigyrau'n dangos nad yw pleidiau gwleidyddol wedi cymryd yr angen am gydraddoldeb ac amrywiaeth mewn llywodraeth leol o ddifri.
"Dyw e ddim bellach yn dderbyniol i bleidiau ddweud eu bod yn cefnogi amrywiaeth heb wneud y newidiadau angenrheidiol i sicrhau bod hynny'n digwydd.
"Cyn yr etholiad fe wnaethon ni rybuddio am argyfwng amrywiaeth, ac rydyn ni'n gweld hynny'n glir nawr. Mae'n amser gweithredu ar unwaith gan bob plaid.
"Rhaid i hynny ddechrau heddiw drwy sicrhau bod bob plaid yn etholiad 2022 cynnig ymgeiswyr amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau y byddan nhw'n eu gwasanaethu a'r 50% o'r boblogaeth sy'n fenywod."