Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Miloedd o sglefrod m么r ar draethau yng Nghymru
Mae miloedd o sglefrod m么r wedi eu darganfod ar draethau yn Sir Benfro, Ynys M么n a Cheredigion.
Mewn un rhan o Gymru yn unig, mae dros 300 o sglefrod m么r wedi golchi i'r lan, a hynny yng Nghei Newydd, Ceredigion.
Dywedodd Sarah Perry o ganolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion: "Fel cadwraethwr dwi erioed wedi gweld gymaint a hyn o'r blaen.
"Mae hyn bendant yn haid enfawr."
Dywedodd bod y creaduriaid i'w gweld bob blwyddyn ond ychwanegodd bod hyn "yn anarferol oherwydd y nifer, a bod eu maint yn gymaint mwy".
Dywedodd fod y tywydd cynnes diweddar wedi sbarduno y ffyniant yn y slefrod m么r, sy'n gallu tyfu hyd at 88cm (35in) mewn hyd.
Mae'r niferoedd wedi tyfu yn y blynyddoedd diwethaf oherwydd bod y gaeafau mwyn yn caniat谩u i blancton, eu prif ffynhonnell fwyd, i ffynnu.