Teyrngedau i ferch 22 oed o Fae Colwyn fu farw yn Abersoch

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Chloe Lou Farrell yn dilyn digwyddiad gyda thractor ym mharc gwyliau'r Warren yn Abersoch

Mae teulu merch 22 oed o Fae Colwyn a fu farw yn dilyn digwyddiad gyda thractor yn Abersoch wedi talu teyrnged iddi drwy ddweud ei bydd hi'n "golled enfawr."

Bu farw Chloe Lou Farrell yn dilyn digwyddiad gyda thractor ym mharc gwyliau'r Warren yn Abersoch ddydd Gwener.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 19:20 wedi iddynt glywed bod tractor wedi troi drosodd a daeth cadarnhad bod Ms Farrell wedi marw.

Mewn datganiad dywedodd teulu Ms Farrell ei bod hi "llawn hwyl" ac yn "byw bywyd i'r eithaf".

"Roedd hi llawn hwyl ac yn byw bywyd i'r eithaf. Mi oedd hi wrth ei bodd yn treulio amser gyda'i ffrindiau."

Roedd Ms Farrell yn gweithio ym musnes y teulu, ac yn "angerddol tuag at Abersoch", wrth iddi fynd ar wyliau yno ers iddi fod yn ddwy oed.

"Roedd hi wrth ei bodd allan ar y cwch neu jet-ski ac mi oedd hi wedi treulio amser yn gweithio yn y pentref yn ystod yr haf.

"Bydd Chloe yn golled enfawr i bawb oedd ddigon lwcus i'w adnabod."

'Cymuned mewn sioc'

Dywedodd Prif Weithredwr Gr诺p Haulfryn, sy'n rhedeg y parc, Bobby McGhee: "Rydym yn meddwl ac yn cydymdeimlo gyda'r teulu a ffrindiau ar yr amser hynod o anodd yma.

"Mae'r gwasanaethau brys yn ymchwilio'n llawn i'r ddamwain a beth wnaeth achosi i dractor y perchennog droi drosodd.

"Unwaith bydd cadarnhad o hynny fe fyddwn yn rhyddhau datganiad pellach," meddai.

Mae'n debyg nad oedd cerbyd arall yn rhan o'r digwyddiad.

Wrth dalu teyrnged dywedodd Dewi Wyn Roberts, Cynghorydd annibynnol Abersoch fod y gymuned mewn "sioc" yn dilyn y digwyddiad.

"Rwyf fi a'r gymuned gyfan yn meddwl am y teulu a ffrindiau'r ferch," meddai.

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Chloe Farrell ym mharc gwyliau 'The Warren,' Abersoch

'Ymholiadau'n parhau'

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi cadarnhau ei bod yn ymwybodol o'r digwyddiad a bod y farwolaeth yn cael ei drin fel digwyddiad yn y gweithle.

Cadarnhaodd yr HSE hefyd nad ydyn nhw'n rheoleiddio'r diwydiant hamdden a thwristiaeth a byddai rhaid i'r digwyddiad gael ei gyfeirio at Gyngor Gwynedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Rydym yn ymwybodol o'r digwyddiad trasig ym mharc gwyliau The Warren ger Abersoch nos Wener. Bydd swyddogion y Cyngor o adran Gwasanaethau Diogelwch y cyhoedd yn gweithio gyda Heddlu'r Gogledd i ymchwilio i'r digwyddiad.

"Rydym yn annog unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu gyda'r heddlu ar 101."