Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Angen mwy o farchnata ar lyfrau plant medd Bardd Plant
Mae Bardd Plant Cymru yn dweud bod angen mwy o farchnata ar lyfrau plant gan awduron Cymraeg.
Yn 么l Anni Ll欧n, sydd yn ysgrifennu ar gyfer plant ei hun, mae yna ddigon o lyfrau yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith ond does dim digon o sylw yn cael ei roi iddyn nhw o'i gymharu 芒'r llyfrau gan awduron enwog sydd yn ysgrifennu yn Saesneg.
"Dw i'n ymwybodol bod hi yn anodd dwyn persw芒d pan mae gen ti rywbeth hawdd i'w hyrwyddo.
"Mae addasiadau Cymraeg o bethau sydd mor boblogaidd 芒 Roald Dahl a David Walliams, mae gennon nhw'r peiriant marchnata yma ar ben eu hunain. Mae'r gwaith wedi cael ei wneud wrth hyrwyddo'r rheina.
"Fyswn i yn licio mwy o fuddsoddiad mewn i hyrwyddo a marchnata llyfrau plant, ym myd plant, yn yr ysgolion.
"Dw i'n gwybod mae 'na bethau da yn cael eu gwneud. Mae 'na awduron a gweisg yn gweithio yn galed yn y maes. Ond mae o yn rhywbeth mae'n rhaid i ni weithio arno fo yn y blynyddoedd nesaf cyn i bethau fynd yn waeth," meddai.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn dweud ei bod yn cytuno fod angen gwneud mwy i hyrwyddo llyfrau plant a bod angen i'r Cyngor, "mewn partneriaeth gydag awduron, cyhoeddwyr ac asiantaethau eraill i rannu'r cyfrifoldeb o hyrwyddo a marchnata".
Ond maent yn dweud bod ganddynt gynlluniau i hyrwyddo darllen ar hyn o bryd fel Gwobrau Tir na n-Og, cystadlaethau Darllen dros Gymru a Bookslam, Diwrnod y Llyfr ac ymgyrch LlyfrDaFabBooks.
Codi hyder
Fel rhan o'r gwaith mae Anni Ll欧n wedi bod yn teithio Cymru yn cynnal gweithdai mewn ysgolion ac wedi cael croeso ymhob ysgol meddai.
Er bod y disgyblion yn darllen llyfrau Cymraeg mae nifer yn llyfrau sydd wedi eu cyfieithu o'r Saesneg. Dydyn nhw ddim felly yn cael y profiad o ddysgu am gymeriadau newydd a dod i wybod sut mae'r stori yn datblygu meddai.
"Maen nhw'n gwybod be 'di'r stori. Maen nhw wedi gweld y ffilm ac yn gwybod be di'r fersiwn Saesneg. Dw i yn gweld hynny yn bechod mawr o ran ysbrydoli plant."
Ar faes eisteddfod yr Urdd fe fydd Anni Ll欧n yn trosglwyddo'r awenau i'r bardd plant newydd ac mae'n grediniol bod yna bwrpas i'r r么l.
Mae'n teimlo nad dim ond ysbrydoli ac annog plant i fod yn greadigol yw'r nod ond codi eu hyder nhw a'r athrawon a rhoi cefnogaeth iddynt.
"Mae hynny wedi bod yn bleser i fi, clywed athrawon yn dweud, 'O gwych, nawn ni ddefnyddio'r technegau yna eto', neu, 'Dw i wedi dysgu llawer' neu, 'O does gennai ddim hyder ond dw i'n si诺r allai wneud rhywbeth efo hyn'.
Mae hynny wedi codi fy nghalon i."
Wedi dwy flynedd o ymweld ag ysgolion mae'r ferch o Ben Ll欧n yn hyderus am ddyfodol y Gymraeg.
Ond mae'n dweud bod yna amrywiaeth yn yr iaith sydd yn cael ei siarad heddiw.
"Mae Cymraeg rhywun o aelwyd Gymraeg ac sydd mewn ardal Gymraeg yn wahanol i Gymraeg rhywun sydd yn dod o aelwyd di-gymraeg mewn cymdeithas ddi-gymraeg sydd jest yn cael addysg Gymraeg.
Gadael gwaddol
"Wrth gwrs mae'r ddwy iaith hynny yn wahanol ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod y ddwy yn bodoli ac mae'n rhaid i ni gydnabod yr amrywiaeth hynny dw i'n meddwl."
Er hynny mae'n dweud bod "dim yn bod anelu i gael iaith gywir hefyd" ac y byddai hi yn cywirio iaith y plant pan oedd hi yn yr ysgolion.
Y newid y byddai hi yn hoffi ei weld i'r r么l yn y dyfodol yw bod yna waddol yn cael ei adael ar 么l yn yr ysgol ac mae'n awgrymu creu ap Bardd Plant Cymru.
"Mae'r plant yn gallu troi at y brand yna mewn ffordd, cael eu hatgoffa o beth wnaethon nhw yn y gweithdy, a chario ymlaen efo'r gwaith trwy ddefnyddio ap, neu 'dw i ddim yn gwybod be yn union fysa fo, ond mae 'na le i ddatblygu presenoldeb brand bardd plant yn yr ysgol."