'Ofnau y gallai rheolau newydd beryglu sioeau bach'

Gallai rheolau newydd Llywodraeth Cymru ar symud da byw fod yn drychineb i sioeau amaethyddol llai, yn 么l Undeb Amaethwyr Cymru.

Ymhen tair wythnos bydd angen i ffermwyr gofrestru uned gwarantin ar y fferm er mwyn osgoi'r cyfyngiadau ar symud anifeiliaid am chwe diwrnod.

Dyw'r rheolau ddim yn dod i rym yn Lloegr tan yr hydref.

Ond mae ffermwyr yn dweud bod y drefn newydd yn gostus ac yn gaeth.

Ar hyn o bryd os yw ffermwyr yn dod 芒 defaid, gwartheg neu eifr newydd i'r fferm (ar 么l sioe neu marchnad) mae 'na waharddiad ar symud unrhyw anifeiliaid ar y fferm am chwe niwrnod.

Ond i'r rhai hynny sydd eisiau arddangos mewn mwy nag un sioe o fewn wythnos, mae modd cael cae neu sied ar wah芒n, neu uned arbennig sy'n gwahanu.

Ond o dan y drefn newydd bydd yr unedau ar wah芒n yma yn cael eu gwahardd a bydd rhaid cofrestru, a thalu, am uned cwarantin yn eu lle.

61 rheol newydd

Bydd yn rhaid i ffermwyr ddilyn rhestr o 61 o reolau newydd sy'n cynnwys pethau fel rhoi ffensys a gatiau dwbwl, a gwisgo dillad arbennig os ydyn nhw am barhau i arddangos.

Yn ogystal bydd yn rhaid iddyn nhw dalu ffi o 拢172 am un uned cwarantin neu 拢244 am ddwy uned.

Yn 么l Gwilym Jones o Flaenau Ffestiniog, mae gan y newidiadau oblygiadau difrifol: "Mae'r rheolau yn mynd yn eu h么l yn hytrach nac yn eu blaen. Dyw e ddim yn g'neud dim sens ... dyw e ddim gwerth arddangos, meddai Mr Jones.

Meddai Geraint Jones o Ystrad Meurig: "Os ydyn nhw am feni cefn gwlad - ma nhw'n mynd ati ffordd iawn. Mae'n mynd i gostio 拢174 o bunnau am 11 mis - mae rheolau 'da ni'n barod - does dim byd yn bod 芒 rheiny."

Mae rhai yn honni nad yw Llywodraeth Cymru yn barod am y newidiadau - un o'r rhai hynny yw Si芒n Davies sy'n ffermio ger Rhaeadr:

"Be'n union sy'n digwydd? Dwim yn meddwl bod y bobl yn y swyddfa yn Aberystwyth yn gwybod achos ffonies i ddydd Gwener a do'dd 'da'n nhw ddim cliw."

Mae Geraint Jones yn cytuno: "Y trwbwl mwyaf yw do's neb yn gwybod be sy'n digwydd. Os na gai bethe trwyddo erbyn y degfed does dim pwynt gan bod sioe 'da fi bump diwrnod wedyn a nifer o sioeau yn fuan ar 么l hynny."

'Pwyllo ac oedi'

Ar drothwy tymor y sioeau mae ffermwyr yn galw am bwyllo ac oedi cyn gweithredu'r newidiadau.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn gofyn os oedd angen newid o gwbwl.

Dywedodd Brian Walters: "Mae hwn yn mynd i fod yn drychineb i shows bach achos fydd pobl ddim yn mynd oherwydd y rheolau caeth.

"Does dim tystiolaeth bod doluriau yn cael eu trosglwyddo mewn sioeau. Wedi'r cyfan rhaid bod yr anifeiliaid yn iach cyn eu bod yn dod i'r sioe yn y lle cyntaf.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, mae'r rheolau newydd yn ymateb i alwadau gan y diwydiant i ail-wampio'r sefyllfa bresennol a dy'n nhw ddim wedi cadarnhau bod 'na oedi yn y broses gofrestru.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad ydynt wedi brysio'r newidiadau. Maent, meddent, wedi gweithio trwy'r rheolau yn systematig gan gydweithio gyda milfeddygon.

Mae trefn yr unedau cwarantin yn dod i rym ar y degfed o Fehefin - felly mae gan ffermwyr lai na thair wythnos i gydymffurfio.