Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cwmni ffonau symudol EE yn ymestyn eu gwasanaethau Cymraeg
Mae cwmni ffonau symudol wedi cyhoeddi mai nhw yw'r cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnig gwasanaeth cwsmeriaid yn y Gymraeg.
Cwmni ffonau symudol EE, sy'n rhan o rwydwaith Gr诺p BT, yw'r mwyaf yn y DU, ac fe fydd y cwmni yn cynnig y gwasanaeth cwsmeriaid Cymraeg o'u canolfan alwadau a siopau yng Nghymru.
Nawr fe fydd cwsmeriaid EE yn gallu gofyn am alwad gan d卯m gwasanaeth Cymraeg EE wrth anfon neges destun neu arlein at y cwmni.
Hefyd, fe fydd aelodau o staff y cwmni sy'n siarad Cymraeg, yn nodi hynny drwy wisgo bathodyn gyda baner y Ddraig Goch arni.
Mae EE hefyd yn addasu eu siopau a chanolfannau cyswllt i gynnwys arwyddion dwyieithog Cymraeg/Saesneg parhaol.
Cynyddu staff Cymraeg
Dywedodd y cwmni eu bod yn edrych i gynyddu nifer y staff sy'n siarad Cymraeg yn eu 29 o siopau ar draws y wlad.
Dywedodd prif weithredwr EE, Marc Allera: "Rydym yn gweithio i ddarparu'r gwasanaeth cwsmeriaid a rhwydwaith 4G gorau ar gyfer ein cwsmeriaid yng Nghymru.
"Dyna'r rheswm pam ein bod am uwchraddio ein rhwydwaith 4G ar draws y wlad a'r penderfyniad i fod y cwmni symudol cyntaf i gynnig opsiwn i siarad gyda ni yn Gymraeg, boed wrth ofyn am alwad gan ein t卯m ardderchog ym Merthyr neu ymweld 芒'n siopau ar draws y wlad."
Mae canolfan gyswllt EE ym Merthyr Tydfil wedi ennill sawl gwobr am ei gwasanaeth ac yn cyflogi bron 1,000 o staff a tua 50 prentis.