Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Oedi trefn unedau cwarantin ffermydd tan fis Medi
Mae undebau amaeth wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio 芒 chyflwyno trefn newydd o unedau cwarantin ar ffermydd am dri mis arall.
Roedd ffermwyr yn dweud bod y cynllun oedd fod i ddod i rym ar 12 Mehefin yn "ddinistriol" i sioeau amaethyddol ac roedd y rheolau oedd wedi'i gosod gan Lywodraeth Cymru yn "rhy llym".
Fe wnaeth yr undebau amaeth ddadlau nad oedd amaethwyr wedi cael digon o amser i sefydlu'r unedau ac mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu'r penderfyniad.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amaeth, Lesley Griffiths bod "y penderfyniad wedi'i wneud ar 么l trafodaethau gyda sefydliadau ffermio allweddol".
Ychwanegodd: "Rwy'n si诺r bydd y dull yma o fudd i amaethwyr y sioeau amaethyddol ac i'r rhai sy'n bwriadu arddangos eu hanifeiliaid yn y digwyddiadau gwledig pwysig yma."
Gwaharddiad
Ar hyn o bryd os yw ffermwyr yn dod 芒 defaid, gwartheg neu eifr newydd i'r fferm (ar 么l sioe neu marchnad) mae 'na waharddiad ar symud unrhyw anifeiliaid ar y fferm am chwe niwrnod.
Ond i'r rhai hynny sydd eisiau arddangos mewn mwy nag un sioe o fewn wythnos, mae modd cael cae neu sied ar wah芒n, neu uned arbennig sy'n gwahanu.
Ond o dan y drefn newydd bydd yr unedau ar wah芒n yma yn cael eu gwahardd a bydd rhaid cofrestru, a thalu, am uned cwarantin yn eu lle.
Ond ni allai'r unedau ar wah芒n yma gael ei defnyddio o dan y rheolau newydd a bydd rhaid i ffermwyr wneud cais a thalu am unedau cwarantin newydd.
Mae'r undebau amaeth wedi croesawu'r penderfyniad.
Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts: "Mae'r penderfyniad pragmatig yma sy'n cael ei groesawu yn caniat谩u i'r rhai sy'n mynychu sioeau a phrynu anifeiliaid i barhau i ddefnyddio'r unedau ar wah芒n o dan y rheolau presennol hyd nes y dyddiad newydd.
"Mae hyn yn lleihau'r problemau byddai wedi codi i'r rhai sy'n mynychu sioeau," meddai.
Mae Undeb NFU Cymru hefyd yn croesawu'r penderfyniad. Yn 么l is-lywydd yr Undeb, John Davies mae'n "newyddion croesawgar i'r diwydiant."