Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyflwyno Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Ynys M么n
Cafodd Cadair a Choron Eisteddfod Genedlaethol Ynys M么n eu cyflwyno i bwyllgor gwaith y Brifwyl mewn seremoni yn Llangefni nos Lun.
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ym Modedern ar Ynys M么n rhwng 4-12 Awst.
- Mwy o
Mae'r Goron eleni yn cael ei noddi gan Ferched y Wawr i nodi penblwydd y mudiad yn 50.
Cafodd ei llunio gan y gof arian, John Price, a aeth ati i gyfuno delweddau o atyniadau'r ynys, ynghyd 芒 chennin pedr, sy'n cynrychioli Merched y Wawr.
Dywedodd John Price: "Mae cymaint o ysbrydoliaeth yn nhirwedd ac yng ngyhyfoeth diwylliannol M么n, a gobeithio bod y Goron hon yn adlewyrchiad o gyfraniad Merched y Wawr ac Ynys M么n i ni fel cenedl."
Dolen gyda'r gorffennol
Eleni mae'r Gadair yn cael ei chyflwyno am awdl o dan y teitl 'Arwr' neu 'Arwres'. Yr Arwr oedd teitl yr awdl ganrif yn 么l hefyd, yn Eisteddfod y Gadair Ddu ym Mhenbedw lle daeth gwaith Hedd Wyn i'r brig.
Mae Cadair 2017 wedi'i chreu'n rhannol o goed ynn a derw sydd wedi cael eu llifio o goed a dyfodd ar dir Yr Ysgwrn, cartref Ellis Humphrey Evans, sef "Hedd Wyn" yn Nhrawsfynydd.
Crefftwr ifanc o Ysbyty Ifan, Rhodri Owen, sydd wedi cynllunio a chreu'r gadair eleni.
"Fe f没m yn ystyried siapiau'r offer ac arfau a fyddai'n cael eu defnyddio'n ddyddiol mewn ardal wledig ganrif yn 么l, gan eu datblygu a'u mewnosod yn y cynllun.
"Mae'r ddwy goes 么l yn codi tua'r 'lloer' ac ar siap pladuriaid, a gwaelod y cefn ar siap dau haearn marcio."
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sy'n gyfrifol am gartref Hedd Wyn, Yr Ysgwrn, yw noddwyr y Gadair eleni.
Cafodd y Goron a'r Gadair eu derbyn gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith Lleol, Derec Llwyd Morgan, ar ran yr Eisteddfod.