Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
ACau i ystyried cais deddfwriaeth awtistiaeth newydd
Bydd Aelodau Cynulliad yn ystyried cais i lunio deddfwriaeth newydd er mwyn cryfhau gwasanaethau awtistiaeth.
Byddai deddfwriaeth awtistiaeth y Ceidwadwr Paul Davies yn gorfodi awdurdodau lleol a'r byrddau iechyd i lunio strategaeth er mwyn cryfhau gwasanaethau.
Yn 么l Llywodraeth Cymru bydd 拢13m yn cael ei wario yn ystod y pedair blynedd nesaf ar wasanaeth integredig cenedlaethol ar awtistiaeth.
Mae'r llywodraeth wedi datgan fod ganddyn nhw'r grymoedd i gefnogi pobl sydd ag awtistiaeth yn barod, a'u bod yn adolygu'r sefyllfa yn gyson.
'Anghyson'
Hawliodd Mr Davies fod gwasanaethau wedi bod yn "anghyson yn y gorffennol, ac mae angen deddfwriaeth i sicrhau fod y gwasanaethau yma yn cael eu sefydlu yn statudol".
Mae Mr Davies yn apelio am gefnogaeth ei gyd-aelodau Cynulliad ar 么l ennill balot i gyflwyno mesur ger bron y Cynulliad.
Os yn llwyddiannus fe fydd ganddo 13 mis i gyflwyno mesur ffurfiol ar gyfer ystyriaeth bellach.
Dywedodd Mr Davies ei fod yn "obeithiol" y gallai ei argymhellion gael eu derbyn.
Yn yr hydref fe drechwyd ymgais gan y Ceidwadwyr yn y Cynulliad i gyflwyno mesur awtistiaeth.