Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Carcharorion yn darparu prydau ar glud ym Mro Morgannwg
Mae carcharorion yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont yn darparu gwasanaeth pryd ar glud i henoed ym Mro Morgannwg wedi i'r cyngor gael gwared 芒'r gwasanaeth.
Yn 么l Cyngor Bro Morgannwg roedd nifer y prydau a oedd eu hangen wedi gostwng yn sylweddol. Roedd y ffigwr dyddiol yn 2012 yn 112 pryd y dydd ond erbyn dechrau eleni dim ond 45 a oedd angen pryd ar glud.
Un o'r sefydliadau sydd wedi dod i'r adwy yw The Food Shed sy'n cydweithio 芒 charchar y Parc ym Mhen-y-bont.
Y carcharorion sy'n paratoi'r prydau ar glud ac maent yn cael eu dosbarthu gan wasanaeth arall i bobol sydd angen y prydau.
Yn 么l G4S, sy'n rhedeg Y Parc, mae'r broses yn helpu carcharorion rhag aildroseddu.
Ar hyn o bryd henoed yn rhan orllewinol Sir Bro Morgannwg sy'n derbyn y gwasanaeth ond y gobaith yw ehangu i weddill y sir.
Does yna'r un cytundeb wedi'i arwyddo ond roedd The Food Shed yn un o'r gwasanaethau a gysylltwyd 芒 nhw wedi i wasanaeth pryd ar glud y cyngor ddod i ben.
Dywedodd y cyngor bod y gwasanaeth pryd ar glud yn costio 拢50,000 y flwyddyn i'r adran gwasanaethau cymdeithasol .
Bu'n rhaid i'r bobl yr oedd y newid yn cael effaith arnynt gael eu hailasesu ac os yr oeddynt yn hapus gyda threfniant newydd roedd swyddogion yn trosglwyddo eu manylion i sefydliadau perthnasol.
Dywedodd dirprwy gyfarwyddwr carchar Y Parc Lisette Saunders: "Mae ein partneriaeth gyda'r Food Shed yn darparu bwyd o safon i bobl sydd ei angen a hefyd yn cefnogi ein gwaith i ddatblygu sgiliau a hyfforddiant i garcharorion - yr hyn sy'n digwydd yn y pen draw yw bod y cyfan o gymorth i'r carcharorion i beidio aildroseddu."
Cafodd un carcharor, meddai G4S, swydd gyda'r Food Shed wedi iddo gael ei ryddhau.
Ychwanegodd Ms Saunders: "Mae rhaglenni fel The Food Shed yn annog carcharorion i fod yn gysylltiedig gyda cgymunedau lleol, i fod yn gymdogion da ac i roi rhywbeth yn 么l i'r mwyaf anghenus."