Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw am fwy o gefnogaeth i dadau sydd wedi colli babi
Mae angen gwneud mwy i annog tadau i chwilio am gymorth pan mae eu partneriaid yn colli plentyn neu'n geni plentyn yn farw, yn 么l gweithwyr elusen.
Mae'r ffigyrau diweddaraf sydd ar gael yn dangos fod 158 o fabanod yn farw-anedig yng Nghymru yn 2015 - 0.47% o gyfanswm y genedigaethau.
Ond er bod llawer o fenywod yn chwilio am gefnogaeth, meddai elusen Sands, mae dynion yn llai parod i wneud.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod cymorth ar gael drwy wasanaethau profedigaeth y byrddau iechyd.
'Methu siarad yn agored'
Mae Sands yn cynnal gwasanaeth cofio ddydd Sul yng Nghaerdydd i rieni sydd wedi eu heffeithio ar 么l colli plentyn neu'n geni plentyn marw-anedig.
Roedd Heatherjane Coombs 36 wythnos yn feichiog gyda'i mab Xander pan gafodd hi drafferthion yn 2004.
Bu farw ei mab yn y groth a bu'n rhaid iddi roi genedigaeth iddo ddeuddydd yn ddiweddarach.
Dywedodd Mrs Coombs, 43, sydd bellach yn gadeirydd gr诺p Sands yng Nghaerdydd a Chasnewydd, fod y gefnogaeth gan y fydwraig iddi hi wedi bod yn wych, ond doedd na neb i siarad gyda'i g诺r.
"Bydd llawer o bobl yn gofyn i'r tad, 'sut mae eich gwraig?' neu 'sut mae eich partner?, a phrin iawn y cewch chi bobl yn gofyn 'sut ydych chi?'," meddai.
"Dwi'n meddwl fod hynny'n rheswm arall pam ei fod yn dab诺 gyda dynion, achos dyw cymdeithas yn gyffredinol ddim yn gwneud iddyn nhw deimlo y gallan nhw siarad yn agored."
Ychwanegodd ei g诺r Dave, sydd hefyd yn cynorthwyo gyda gwasanaethau Sands, fod cefnogaeth i dadau wedi gwella ers ei golled ef ond bod mwy eto i'w wneud.
"Fel partner rydych chi'n troi at fod y person sydd yn parhau i ennill y bara menyn.
"'Dych chi'n ceisio parhau i weithio, cefnogi, chi yw'r un sy'n gorfod aros yn gryf, ond beth sy'n digwydd yw 'dych chi'n disgyn yn ddarnau nes ymlaen," meddai.
"Mae angen dweud wrth ddynion, mae'n iawn i alaru, mae'n iawn i ypsetio ac yn y pen draw, er lles eich iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol, mae'n dda i alaru achos [fel arall] mae'n tueddu amlygu'i hun fel salwch corfforol neu feddyliol nes ymlaen."
Cefnogaeth
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae colli plentyn neu eni plentyn marw-anedig yn gallu bod yn dorcalonnus i rieni'r babi, ac i aelodau eraill o'r teulu.
"Dyna pam fod gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru eu gwasanaeth profedigaeth eu hunain sydd yn cynnig cefnogaeth nid yn unig i rieni, ond y teulu'n ehangach."
Ers colli Xander mae Mr a Mrs Coombs, sydd heb gael unrhyw blant eraill wedi i ddau gael eu camesgor, wedi sefydlu'r gr诺p yn ardal Caerdydd a Chasnewydd i gefnogi teuluoedd eraill.
Bydd y gwasanaeth cofio blynyddol yn cael ei gynnal am 11:30 yng Nghapel Wenallt, Amlosgfa Thornhill ac yn cael ei arwain gan y Parchedig Rhiannon Francis, o gaplaniaeth Ysbyty Athrofaol Cymru.