Pryder cymuned yng Ngwynedd am ddiffyg meddyg Cymraeg

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Bydd yr unig feddyg ym Mhenygroes, Gwynedd sy'n gallu siarad Cymraeg yn ymddeol o feddygfa Dolwenith o fewn y mis

Mae yna bryder yn Nyffryn Nantlle yng Ngwynedd yngl欧n 芒'r gwasanaeth meddyg teulu yn yr ardal.

Mae un o feddygon teulu'r ardal yn ymddeol yn fuan sy'n golygu na fydd meddyg teulu sy'n medru siarad Cymraeg bellach yn gwasanaethu'r ardal.

Yn 么l y cynghorydd lleol Craig ab Iago dydi'r Bwrdd Iechyd lleol ddim wedi ymateb i'w gais am wybodaeth yngl欧n ag olynydd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymateb drwy ddweud fod meddyg di-Gymraeg wedi ei benodi ac y bydd ganddo gyd-weithiwr fydd yn medru'r Gymraeg.

Dywedodd Craig ab Iago fod ymddeoliad Dr Morris Jones yn golygu na fydd yna feddyg sy'n siarad Cymraeg yn yr ardal er ei bod yn un o ardaloedd Cymreiciaf Cymru.

Un sydd wedi bod yn glaf yn y feddygfa ers blynyddoedd yw Heulwen Jones, mae hi'n pryderu am y dyfodol.

"Dwi wedi bod yn glaf yma ers yn ifanc, mae 'na wasanaeth dwyieithog yma sy'n agos atoch, dyma sydd yn fy mhryderu i, nad ydyn nhw (bwrdd iechyd) am gymryd pethau fel hyn i ystyriaeth.

"Mae meddygfeydd eraill ond dwi'n deall gan bobl nad oes gwasanaeth Cymraeg ar gael yno".

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Cynghorydd Craig ab Iago yn dweud bod gan drigolion Penygores yr 'hawl i gael meddyg sy'n siarad ein hiaith."

Mae'r Craig ab Iago wedi dechrau deiseb er mwyn ceisio denu meddyg teulu Cymraeg i olynu Dr Morris.

"Hon ydy'r ardal Gymraeg fwyaf yn y byd, mae gennym hawl i gael meddyg sy'n siarad ein hiaith, " meddai.

"Does neb yn gwybod beth sy'n digwydd oherwydd does neb yn cyfathrebu efo ni."

Wrth siarad am brinder cyffredinol meddygon teulu, dywedodd Craig ab Iago nad ydy'r prinder "ddim i neud efo'r gymuned yma".

Wrth ymateb, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod meddyg di-Gymraeg wedi ei benodi i olynu Dr Morris Jones a bod y meddyg hwnnw yn bwriadu penodi cyd-weithiwr fydd yn medru'r Gymraeg.