Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Prosiect Rheilffordd Gwili yn cyrraedd pen y daith
Ar 么l prosiect 15 mlynedd mae'r estyniad newydd o Reilffordd Gwili yn Sir Gaerfyrddin yn agor i'r cyhoedd ddydd Sul.
Mae'n golygu y bydd pobl sy'n teithio ar y tr锚n st锚m yn mwynhau golygfeydd sydd heb eu gweld am bron i 50 mlynedd.
Mae'r gwaith gan wirfoddolwyr Rheilffordd Gwili wedi gweld hyd y rheilffordd yn cael ei ymestyn 1.75 milltir, gan ddyblu'r hyd presennol.
Bydd teithwyr nawr yn gallu teithio o'r orsaf ym Mronwydd i Abergwili, ar gyrion tref Caerfyrddin.
Gwaith ar yr estyniad newydd
- 1.75 milltir o hyd
- 300 rhan o drac
- 4,000 o drawstiau concrit
- 5,000 tunnell o falast.
Dywed y rhai tu 么l i'r fenter bod cynlluniau i agor canolfan ymwelwyr ar safle'r orsaf newydd.
Cafodd y cledrau gwreiddiol, oedd yn ymestyn ar hyd hen ran ddeheuol y lein o Gaerfyrddin i Aberystwyth, eu cau i deithwyr yn 1965 yna eu codi yn 1977.
Mae'r gwaith o adfer y lein wedi costio tua 拢300,000 ac mae yna gyfraniadau ariannol sylweddol wedi bod gan gwmni Cwm Environmental a Chyngor Sir Caerfyrddin.