Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dadorchuddio gwaith celf i goff谩u Streic y Penrhyn
Mae gwaith celf i goff谩u Streic y Penrhyn wedi cael ei ddadorchuddio mewn digwyddiad ddydd Sadwrn.
Mae'r cerflun, sy'n rhan o arddangosfa Llechi a Llafur, wedi ei gynllunio gan gwmni Walker a Bromwich o Lundain, a'r nod yw cyfleu y chwerwder a'r dioddefaint a achosodd yr Arglwydd Penrhyn i chwarelwyr Bethesda a'u teuluoedd yn ystod streic 1900-1903.
Dyw nifer o bobl leol Bethesda a'r ardal, medd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ddim wedi bod eisiau mynd i'r castell oherwydd chwerwder yr hanes.
Cafodd y cerflun 15 troedfedd o daldra ei gludo mewn gorymdaith oedd yn ail-droedio'r llwybr a gymerodd y streicwyr i ddod 芒'u gorchmynion i'r Arglwydd Penrhyn yn 1900.
Yn rhan o'r orymdaith hefyd roedd baneri sydd wedi cael eu gwneud mewn gweithdai yn y gymuned.
Mae'r cerflun yn benllanw cywaith tair blynedd Cyngor Celfyddydau Cymru ond y gobaith yw y bydd ei effaith yn para drwy roi canolbwynt i'r gymuned gael adrodd a dysgu eraill am flynyddoedd anodd y streic.
'Amser symud ymlaen'
Un sydd wedi bod yn gyndyn i ymweld 芒'r castell tan yn ddiweddar yw'r actor John Ogwen, gan fod ei deulu'n arfer gweithio yn y chwarel.
Ond mae bellach wedi newid ei feddwl: "Rwy'n falch bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn trafod yn agored rhan y castell mewn hanes lleol a bod cyfle gan ymwelwyr i glywed hanes Streic y Penrhyn.
"Mae'n amser symud ymlaen. Mae'n hen hanes ond nid hanes y dylid ei anghofio."
Dywedodd Rheolwr Cyffredinol Castell y Penrhyn, Nerys Jones: "Mae Castell y Penrhyn yn fwy na phensaern茂aeth wastraffus a chelfyddyd gain - o dan yr wyneb mae hanes tywyll am gaethwasiaeth ac anghydfod diwydiannol chwerw a newidiodd berthynas y Castell gyda'r gymuned am byth.
"Mae'n amser i ni bellach drafod yr hanesion yn agored yn y castell a thrafod arwyddoc芒d yr hanes gyda'r gymuned leol ac ymwelwyr.
"Yn ystod y blynyddoedd nesaf mi fyddwn ni yn trafod ffyrdd newydd a chreadigol i wneud cyfiawnder 芒 stori'r Penrhyn - mae arddangosfa Llechi a Llafur yn un o'r syniadau hynny."
Yn ogystal, mae fideo sy'n cynnwys lleisiau lleol wedi'i chynhyrchu a bydd barddoniaeth a chanu hefyd yn ffyrdd eraill i gyflwyno'r hanes.
Mae arddangosfa Llechi a Llafur i'w gweld yn Neuadd Fawr, Castell y Penrhyn o 1 Gorffennaf tan 5 Tachwedd 2017.