Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llywodraeth Cymru'n trafod trethi newydd i Gymru
Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl a sefydliadau i gynnig syniadau am drethi newydd i Gymru.
Ar drothwy trafodaeth yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford ei fod am "gychwyn trafodaeth genedlaethol" am drethi newydd.
Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi cael pwerau dros dreth incwm, treth stamp a threth tirlenwi.
Fe ddywed gweinidogion Cymru y bydd rhestr fer o syniadau ar gyfer trethi newydd i Gymru yn cael eu hystyried yn yr hydref.
Bydd Treth Trafodion Tir (sy'n cymryd lle'r hen dreth stamp) a'r dreth ar dirlenwi yn dod o dan ofal Awdurdod Cyllid Cymru yn Ebrill 2018.
O Ebrill 2019, fe fydd gan Gymru hefyd yr hawl i amrywio treth incwm, gyda gweinidogion 芒'r hawl i godi neu ostwng y dreth o 10c yn y bunt o fewn bob band treth.
'Ystyried pob syniad'
Ond mae disgwyl i Mr Drakeford ddweud wrth Aelodau Cynulliad: "Ymhen naw mis fe fydd Llywodraeth Cymru yn codi ein trethi ein hunain am y tro cyntaf mewn 800 mlynedd.
"Mae hyn yn nodi perthynas newydd rhwng Llywodraeth Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol, trethdalwyr Cymru a'r gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi'u datganoli.
"Rwy'n awyddus i ystyried pob syniad, ac am i ni ddechrau sgwrs am drethi newydd - gyda phob plaid wleidyddol, gyda'r cyhoedd, busnesau a sefydliadau ar draws Cymru.
"Rwy'n annog pawb i fod yn rhan o hyn, i rannu eu syniadau ac i'n helpu ni i lunio trethi Cymru i'r dyfodol."
Trethi gwyrdd
Dywedodd AC Dwyrain Abertawe, Mike Hedges wrth 大象传媒 Cymru y byddai o blaid cyflwyno "trethi gwyrdd" er mwyn taclo sbwriel ar strydoedd, ar draethau ac yng nghefn gwlad.
"Mae angen i ni edrych ar dreth ar boteli plastig," meddai, "er mwyn talu am eu casglu a'u gwaredu.
"Gallai hyn arwain at ddychwelyd i ddefnyddio poteli gwydr sy'n gallu cael eu hailddefnyddio yn hytrach na rhai plastig. Dwi hefyd yn credu y dylen ni edrych ar dreth ar gynwysyddion bwyd a diod polystyrene fel modd o leihau'r defnydd o'r pethau sy'n bla ar ein hamgylchedd."
Bydd ACau'n trafod trethi newydd posib yn y Senedd brynhawn dydd Mawrth.