Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Seland Newydd 15-15 Y Llewod
Mae'r Llewod wedi disgwyl 46 mlynedd i ennill cyfres yn Seland Newydd ac ar 么l g锚m gyfartal yn y trydydd prawf yn Auckland, bydd yn rhaid aros am beth amser eto.
Fel y disgwyl roedd hi'n g锚m ddi-gyfaddawd, llawn angerdd ac yn gorfforol galed.
Roedd y chwarter awr cynta' yn gyfle i'r ddau d卯m brofi ei gilydd a chwilio am unrhyw wendidau.
Y t卯m cartre darodd gynta. Ar y pryd roedd Y Llewod yn ymosod ac o fewn pum metr o'r llinell gais. Cafodd y b锚l ei rhyng-gipio gan y Crysau Duon ac mi aethon nhw ar garlam yr holl ffordd i lawr y cae.
Llwyddodd yr amddiffyn i glirio, ond daeth y b锚l yn 么l yn syth gyda chic Beauden Barrett yn dod o hyd i'w frawd, Jordie. Bwydodd y b锚l i Ngani Laumape, a sgoriodd yn y gornel ,gyda Barrett yn ychwanegu'r ddau bwynt gyda trosiad.
O fewn pum munud roedd Y Llewod yn 么l yn y g锚m pan giciodd Owen Farrell gic gosb o tua 30 llath. Gydag wyth munud i fynd tan yr hanner manteisiodd Farrell ar gic gosb arall i ddod 芒'r ymwelwyr o fewn pwynt i Seland Newydd.
Gorffennodd y Crysau Duon yr hanner yn gryf. Cyfunodd Laumape, Anton Lienert-Brown a Jordie Barrett, a llwyddodd y cefnwr i groesi'r llinell gais. 12-6 oedd hi ar yr egwyl ar 么l i Beauden Barrett fethu'r trosiad.
Yn gynnar yn yr ail hanner cafodd Y Llewod gyfle wrth i Seland Newydd droseddu oddi ar y b锚l. Roedd hi'n gic gosb o gryn bellter, ond doedd y dasg ddim yn poeni Elliot Daly, a lwyddodd o'r llinell hanner.
Roedd y Cymro Alun Wyn Jones yn chwarae yn ei nawfed prawf dros y Llewod heddiw, y mwyaf erioed i unrhyw chwaraewr. Dydy o ddim yn debyg o anghofio'r achlysur ar frys ar 么l ergyd anferth arno gan Jerome Kaino a Sam Whitelock. Cafodd Kaino gerdyn melyn a deg munud yn y gell gosb.
Gadawodd Alun Wyn Jones y maes yn fuan wedyn. Courtney Lawes ddaeth ar y maes i lenwi ei 'sgidiau ac mi wnaeth argraff bron yn syth. Wedi tacl uchel Brodie Retallick arno enillodd Y Llewod gic gosb arall. Unwaith eto roedd Farrell yn llwyddiannus.
Gyda'r sg么r yn gwbl gyfartal, 12-12, a dim ond ugain munud ar 么l ar y cloc roedd cefnogwyr Y Llewod yn dechrau dyfalu bod camp t卯m Carwyn James yn 1971 ar fin cael ei hefelychu. Ennill taith oddi cartref yn erbyn y Crysau Duon? Does bosib!
Ond cyn i'r freuddwyd gael cyfle i ddatblygu roedd troed Beauden Barrett wedi rhoi Seland Newydd yn 么l ar y blaen gyda chic gosb o flaen y pyst, gafodd ei dyfarnu ar 么l i Kyle Sinckler droseddu yn y sgrym.
Er bod y capten Sam Warburton wedi gadael y maes am gyfnod cafodd dau Gymro eu cyfle i ddisgleirio yn y munudau olaf. Daeth Rhys Webb o'r fainc fel mewnwr ac roedd 'na ail gap dros y Llewod i fachwr y Scarlets, Ken Owens.
Roedd Y Llewod dan bwysau ger eu llinell gais eu hunain wrth i'r t卯m cartre' geisio gorffen y g锚m mewn steil. Ond yn dilyn sgrym anniben daeth y b锚l yn rhydd a llwyddodd yr ymwelwyr i ennill cic gosb ar y llinell hanner.
Unwaith eto camodd Farrell ymlaen i gymryd y cyfrifoldeb. Roedd yr eiliadau wrth iddo baratoi yn teimlo fel oes i Warren Gatland, hyfforddwr y Llewod a phawb arall yn Eden Park a thu hwnt. Roedd ei gic yn gywir a phedair munud ar 么l i geisio ennill y g锚m.
Roedd calonnau'r ymwelwyr yn eu gyddfau yn syth o'r gic i ail ddechrau'r g锚m. Roedd 'na ddryswch yn amddiffyn Cymru a dyfarnodd Romain Poite bod Ken Owens yn camsefyll wrth gyffwrdd y b锚l.
Gallai hynny fod wedi golygu cic gosb hawdd i Seland Newydd, ond ar 么l i'r dyfarnwr fideo gael golwg arni penderfynwyd ei bod hi'n drosedd anfwriadol, ac felly sgrym oedd hi i Seland Newydd gyda munud ar 么l o'r g锚m.
Llwyddodd Webb i glirio'r b锚l ac am eiliad roedd hi'n edrych fel pebai gwrthymosodiad yn bosib, ond cafodd y bwlch ei gau yn glep gan y Crysau Duon.
Pan aeth y chwiban ola' roedd 'na gymysgedd o ryddhad a siom yn rhengoedd y Llewod. Mor agos ond eto mor bell o gipio cyfres gofiadwy.
Yn ei sylwadau cyntaf ar ddiwedd y g锚m crisialodd y capten Sam Warburton deimladau'r garfan a'u cefnogwyr: "Gwell na cholli!"
Seland Newydd: J. Barrett, Dagg, Liernert-Brown, Laumape, J. Savea, B. Barrett, A. Smith;
Moody, Taylor, Franks, Retallick, Whitelock, Kaino, Cane, Read.
Eilyddion: Harris, Crockett, Faumuina, S. Barrett, A. Savea, Perenara, Cruden, Fekitoa.
Y Llewod: Williams, Watson, J. Davies, Farrell, Daly, Sexton, Murray;
Vunipola, George, Furlong, Itoje, Jones, Warburton, O'Brien, Faletau.
Eilyddion: Owens, McGrath, Sinckler, Lawes, Stander, Webb, Te'o, Nowell.
Dyfarnwr: Romain Poite (Ffrainc)