'Angen diagnosis buan i blant ag anghenion arbennig'

Gall methiant i roi diagnosis iawn i blant ifanc sydd ag anghenion arbennig arwain at hunan-anafu, meddai un arbenigwr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi 拢13m mewn gwasanaethau awtistiaeth ond nid yw hynny yn cynnig help i'r rhai sydd eto i'w hasesu.

Mae rhieni sydd 芒 phryderon am eu plant yn cael eu hannog i gysylltu 芒 meddyg teulu.

Yn 么l Rachel Church, tiwtor sy'n arbenigo ar awtistiaeth yn ysgol feddygol Prifysgol Abertawe, y sefyllfa waethaf yw "pan nad yw plentyn wedi cael diagnosis."

"Maen nhw weithiau yn wynebu argyfwng meddyliol - argyfwng yng ngolwg yr ysgol sy'n gyfystyr 芒 ymddygiad heriol, ac felly maen nhw'n cael eu categoreiddio yn yr ysgol fel plant drwg neu blant sy'n amharu ar wersi.

"Mae 'na achosion hir o ddisgwyl am gael gweld y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed ac yn y cyfnod o aros mae cyflwr y plentyn yn dirywio - yn aml mae 'na argyfwng meddyliol ac achosion o hunan-anafu.

"Mae'r plentyn yn teimlo wedi'i gaethiwo, yn ddi-gefnogaeth a'r unig ffordd i ymdopi yw ffrwydro."

Ffynhonnell y llun, Jovanmandic / Getty Images

"Yn aml," ychwanegodd, "does gan rieni neb i droi atynt - ry'n wedi cael rhai achosion o blant yn bygwth lladd eu hunain.

"Mae ymchwil yn dangos fod pobl sydd a chyflyrau awtistig yn fwy tebygol o gael teimladau i roi terfyn ar eu bywyd neu ymddygiad hunan-anafu. Mae ymddygiad o'r fath i'w weld mewn merched - yn enwedig merched na chafodd ddiagnosis pan yn ifanc."

'Problem real'

Mae'r gyfreithwraig Julie Burton o Fangor yn arbenigo yn y maes.

"Be' sy'n broblem fawr a real yw bod gwasanaethau iechyd meddwl ar y cyfan ond yn canolbwyntio ar gleifion sydd 芒 chyflyrau y gellid eu trin neu cleifion y mae modd rhoi cefnogaeth iddyn nhw ar ryw lefel rhesymol.

"Mae awtistiaeth yn gyflwr oes, mae'n effeithio ar y ffordd y mae pobl yn meddwl ac y mae'n anodd meddwl sut y mae gwasanaethau iechyd meddwl yn gallu helpu - felly mae 'na fwlch anferth sy'n broblem real."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni wedi'n hymrwymo i wneud gwelliannau y mae pobl ag awtistiaeth ynghyd 芒'u rhieni a'u gofalwyr am eu gweld - ac mae ein gwaith yn cael ei gydnabod ar draws y DU a thu hwnt.

"Mae cael eich cyfeirio at y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed yn digwydd ond ry'n ni'n yn cynghori rhieni sydd 芒 phryderon am eu plant i gysylltu 芒'r meddyg teulu yn gyntaf."