Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyflwyno cais caniat芒d cynllunio Neuadd Pantycelyn
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyflwyno cais i Gyngor Sir Ceredigion am ganiat芒d cynllunio i ailwampio neuadd breswyl hanesyddol Pantycelyn.
Mae'r cynlluniau yn cynnwys 200 o ystafelloedd gwely en-suite, ynghyd 芒 gofod cymdeithasu fydd ar gael i fyfyrwyr a'r gymuned leol hefyd.
"Dyma garreg filltir bwysig arall yn hanes Pantycelyn wrth i ni symud gam yn nes at ailagor yr adeilad fel llety myfyrwyr," meddai Gwerfyl Pierce Jones, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a chadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn.
Dywedodd Prifysgol Aberystwyth mai'r bwriad yw ail-agor Pantycelyn erbyn mis Medi 2019, cyhyd 芒'u bod nhw'n sicrhau caniat芒d cynllunio ar gyfer y newidiadau i'r adeilad Gradd 2 rhestredig.
'Prosiect Uchelgeisiol'
Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Wrth i'r cais am ganiat芒d cynllunio fynd gerbron y cyngor sir, mae'r Brifysgol yn bwrw ymlaen gyda'r gwaith o sicrhau bod y cyllid angenrheidiol yn ei le ar gyfer y prosiect uchelgeisiol hwn."
Bydd y cynlluniau - sydd eisoes i'w gweld ar wefan y brifysgol - yn cael eu dangos ym Mhafiliwn Addysg Prifysgol Aberystwyth ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, ac ar stondin y brifysgol ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ynys M么n.
Yn 2015 fe wnaeth y neuadd gau fel llety preswyl, ond penderfynodd Pwyllgor Cyllid na fyddai'r newid yn un parhaol ac y byddai'r adeilad yn cael ei hailddatblygu.
Daeth hynny wedi i nifer o fyfyrwyr Aberystwyth a chefnogwyr Neuadd Pantycelyn brotestio yn erbyn cau'r lle, a symud myfyrwyr i fflatiau newydd ar Fferm Penglais ryw hanner milltir i ffwrdd.
Ers hynny mae myfyrwyr cyfrwng Cymraeg y brifysgol wedi eu lleoli mewn neuaddau preswyl eraill ar gampws y brifysgol.
Dywedodd Gwion Llwyd, Llywydd UMCA: "Mae Pantycelyn wedi bod yn gartref i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth ers degawdau ac mae'r neuadd wedi bod yn rhan annatod o fywyd a diwylliant Cymraeg y dre ers dros 40 o flynyddoedd.
"Mae gweld y cynlluniau ar gyfer y dyfodol nawr yn hynod gyffrous ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at weld y neuadd yn ailagor fel llety ar gyfer myfyrwyr Cymraeg erbyn mis Medi 2019."