Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Prydau am ddim: 'Plant ddim yn bwyta' oherwydd stigma'
Mae rhybudd bod plant yn wynebu gorfod mynd heb fwyd oherwydd bod cynghorau'n cymryd rhy hir i gyflwyno systemau adnabod 么l bys ar gyfer prydau ysgol am ddim.
Roedd bron i 70,000 o ddisgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim yng Nghymru ym mlwyddyn academaidd 2015/16.
Ond mae'r AC Joyce Watson yn rhybuddio bod systemau hen ffasiwn mewn ysgolion yn arwain at fwlio disgyblion.
Dywedodd rhai o gynghorau Cymru bod systemau adnabod 么l bys yn cael eu cyflwyno.
'Dioddef oherwydd stigma'
Dros Gymru, mae nifer o systemau gwahanol yn cael eu defnyddio er mwyn darparu prydau am ddim, gan gynnwys cardiau heb arian, system biometreg neu systemau talu ar-lein.
Er bod galwadau yn 2014 i bob cyngor gyflwyno system 么l bys neu debyg, nid yw nifer wedi gwneud hynny.
Dywedodd AC Llafur dros Orllewin a Chanolbarth Cymru, Ms Watson, bod cynghorau yn cymryd rhy hir i weithredu systemau o'r fath, fyddai'n atal plant o deuluoedd tlawd rhag cael eu bwlio.
"Dwi'n poeni'n fawr am bobl ifanc yn dioddef oherwydd y stigma," meddai.
"Rydyn ni mewn sefyllfa lle mae llawer o deuluoedd yn defnyddio banciau bwyd.
"Os nad yw pobl ifanc yn derbyn y cynnig [o brydau am ddim] oherwydd bod y system yn tynnu sylw atyn nhw, yna pryd maen nhw'n bwyta?"
Y sefyllfa yng Nghymru:
- Dywedodd pob cyngor nad oedd modd adnabod y plant sy'n cael prydau am ddim mewn ffreuturau;
- Nid oes system adnabod 么l bys mewn unrhyw ysgol gynradd ar hyn o bryd;
- Mae systemau biometreg yn cael eu defnyddio mewn mannau yng Ngheredigion, Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
Fe wnaeth swyddfa Ms Watson ymchwilio i'r system yn 2014, gan amlygu problemau oedd yn cynnwys defnydd tocynnau am fwyd, a'r diffyg defnydd oherwydd stigma.
Dywedodd bod system ar gyfer Cymru gyfan yn lleihau costau a sicrhau cysondeb i bawb.
"Dwi'n meddwl bod angen i gynghorau feddwl am symud ymlaen cyn gynted 芒 phosib ar hyn," meddai.
"Mae'n bosib bod llawer o resymau pam nad yw hynny wedi digwydd - cyllidebau yw'r prif un mae'n debyg - ond mae hyn yn broblem i'n plant.
"Ddylwn ni ddim fod yn rhoi ein plant yn y sefyllfa yna. Nid eu bai nhw, na bai eu teuluoedd, yw eu bod nhw yn y sefyllfa yna."
Mae athrawon ac elusennau hefyd wedi rhybuddio nad yw plant mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn bwyta digon, oherwydd diffyg prydau am ddim yn ystod y gwyliau ysgol.
Dywedodd llefarydd ar ran undeb athrawon yr NUT bod athrawon wedi sylwi bod plant yn deneuach ac yn llai effro yn feddyliol wedi'r haf.
Dywedodd cyfarwyddwr Barnardo's Cymru, Sarah Crawley, bod yr elusen yn gweld nifer cynyddol o deuluoedd yn defnyddio banciau bwyd, a bod cyfnod gwyliau ysgol yn arbennig o anodd.