Cyflogau Cymry'r 大象传媒

Am y tro cyntaf erioed mae'r 大象传媒 wedi datgelu cyflogau eu prif gyflwynwyr ac actorion. Cafodd y gorfforaeth ei gorfodi gan Lywodraeth San Steffan i gyhoeddi cyflogau s锚r sy'n ennill mwy na 拢150,000 y flwyddyn.

Dyma olwg ar gyflogau rhai o'r Cymry amlwg:

John Humphrys 拢600,000 - 拢649,999

Mae'r newyddiadurwr 73 oed o Gaerdydd wedi bod yn cyflwyno rhaglen newyddion Today ar 大象传媒 Radio 4 ers blynyddoedd lawer. Mae'n dal i roi nosweithiau di-gwsg i wleidyddion cyn ac ar 么l iddyn nhw gael eu holi'n dwll ganddo. Mae Humphrys hefyd yn cyflwyno'r rhaglen gwis Mastermind.

Huw Edwards 拢550,000 - 拢599,999

Mae cyflwynydd 大象传媒 News at Ten hefyd yn gyfrannwr rheolaidd i Cymru Fyw. Fe ymunodd gyda'r 大象传媒 fel newyddiadurwr dan hyfforddiant yn 1984. Ar 么l cyfnod yn 'stafell newyddion 大象传媒 Cymru symudodd i Lundain. Bu'n ohebydd gwleidyddol yn San Steffan cyn iddo ddod yn wyneb cyfarwydd tu 么l i'r ddesg gyflwyno.

Alex Jones 拢400,000 - 拢449,999 (Cyflwynydd The One Show)

Dechreuodd y cyflwynydd o Rydaman ei gyrfa yn y cyfryngau fel ymchwilydd ar 么l graddio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Buan y daeth cynhyrchwyr teledu i sylwi bod ganddi dalent o flaen y camera. Wedi iddi gael profiad helaeth o gyflwyno ar S4C mi gafodd hi ei dewis yn 2010 i olynu Christine Bleakley fel cyd-gyflwynydd The One Show. Mae Alex newydd ddychwelyd i'r swydd ar 么l cyfnod mamolaeth.

Jason Mohammad 拢250,000 - 拢299,999 (Cyflwynydd)

Dechreuodd Jason o Gaerdydd ei yrfa yn ystafell newyddion 大象传媒 Cymru. Bu'n gweithio ar raglen Wales Today a buan y daeth yr adran Chwaraeon i weld ei rinweddau fel cyflwynydd. Yn ogyst芒l 芒 bod yn aelod o dimau'r 大象传媒 mewn digwyddiadau mawr gan gynnwys Cwpan y Byd ym Mrasil yn 2014, mae hefyd yn cyflwyno Final Score ar 大象传媒 One ac mae ganddo raglen ddyddiol ar 大象传媒 Radio Wales. Mae hefyd wedi cyflwyno rhaglenni ar Radio Cymru ac S4C.

Jonathan Davies 拢150,000 - 拢199,999 (Sylwebydd rygbi)

Roedd y g诺r o Drimsaran yn cael ei ystyried yn un o chwaraewyr rygbi disgleiria' ei gyfnod. Bu'r maswr yn gapten ar Gymru cyn symud i ogledd Lloegr ar ddechrau'r 90au i chwarae rygbi tri ar ddeg i Widnes. Daeth yn 么l i Gymru yn 1996 gan orffen ei yrfa gyda Chaerdydd. Mae ei wybodaeth o'r ddwy g锚m yn golygu ei fod yn cael ei ddefnyddio yn helaeth gan adran Chwaraeon y 大象传媒 fel sylwebydd craff.

Jeremy Bowen 拢150,000 - 拢199,999 (Golygydd y Dwyrain Canol)

Ers ymuno gyda'r 大象传媒 yn 1984 mae'r newyddiadurwr o Gaerdydd wedi gohebu o rai o ryfeloedd ffyrnicaf y byd. Cafodd gyfnod byr yn cyd-gyflwyno Breakfast rhwng 2000-2002 wedi iddo ddiodde' o drawma (PTSD) wedi i danc ymosod ar y car roedd o'n teithio ynddo tra'n gohebu o Libanus. Cafodd cyfaill iddo ei ladd. Mae'n ystyried y digwyddiad yn un wnaeth newid ei fywyd. Ers 2005 mae o wedi bod yn Olygydd y Dwyrain Canol.

Mae'r rhestr lawn ar wefan 大象传媒 News.