Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Penodi Elan Closs Stephens yn aelod Cymru ar Fwrdd y 大象传媒
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bod Elan Closs Stephens wedi ei phenodi i gynrychioli Cymru ar Fwrdd y 大象传媒.
Roedd Ms Stephens yn Ymddiriedolwr dros Gymru ar fwrdd llywodraethu'r 大象传媒, cyn i strwythur llywodraethu a rheoli'r gorfforaeth gael ei newid.
Mae 14 aelod ar y bwrdd, sy'n gyfrifol am oruchwylio annibyniaeth y 大象传媒 ac yn cael eu penodi gan y Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.
Ms Stephens yw Comisiynydd Etholiadol Cymru ar hyn o bryd, ac mae hi hefyd yn athro Emeritws mewn Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
'Braint'
Dywedodd Ms Stephens: "Mae'n fraint i gael fy newis fel Cyfarwyddwr Anweithredol y 大象传媒 dros Gymru ar adeg mor gyffrous o ffurfio bwrdd newydd.
"Mae gen i ddau ddyhead sylfaenol. Rwyf am gyfrannu at lywodraethu cadarn o'r 大象传媒 fydd yn helpu ei wneud yn un o'r darlledwyr mwyaf parchus dros y byd.
"Rwyf hefyd wedi ymrwymo at weld Cymru'n cael ei phortreadu'n llawnach yma ac i weddill y DU."
Wrth ymateb i benodiad Ms Stephens, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ei fod yn falch iawn.
"Rwy'n falch iawn bod Elan Closs Stephens wedi cael ei phenodi ar Fwrdd y 大象传媒.
"Mae ganddi gyfoeth o brofiad yn y cyfryngau a'r diwydiannau creadigol, a bydd hi'n sicrhau bod llais y gynulleidfa yng Nghymru yn cael ei gynrychioli yn uchel ac yn glir o amgylch y bwrdd."