'Rhaid amddiffyn statws bwydydd Cymru ar 么l Brexit'
- Cyhoeddwyd
Rhaid amddiffyn statws gwarchodedig rhai o fwydydd a diodydd mwyaf eiconig Cymru ar 么l Brexit, medd y prif weinidog Carwyn Jones.
Dywedodd Mr Jones wrth 大象传媒 Cymru ei fod o "bwysigrwydd enfawr" datblygu system debyg i'r Enwau Bwyd Gwarchodedig (PFN) sydd gan yr Undeb Ewropeaidd.
Mae 14 cynnyrch bwyd o Gymru wedi cael y statws arbennig, ac mae mwy yn cael eu hasesu ar hyn o bryd.
Bydd cynhyrchwyr bwyd o Gymru yn ymuno ag eraill o weddill y DU mewn cyfarfod yn Melton Mowbray yn ddiweddarach i drafod y ffordd ymlaen.
Mae Halen M么n, Cig Oen Cymreig a Bara Lawr Cymreig (y diweddaraf) ymhlith y cynnyrch o Gymru sy'n rhan o gynllun PFN sy'n ceisio hybu bwydydd traddodiadol a rhwystro efelychiadau rhad.
'Cydnabod cynnyrch y ddwy ochr'
Dywedodd Mr Jones fod "marc cwestiwn mawr" am sut y bydd dynodiadau bwydydd yn gweithio pan fydd y DU yn gadael yr UE.
"Rhaid i ni gael statws hafal sy'n gweithredu ar draws y DU ac sy'n cael ei gydnabod gan farchnadoedd eraill fel yr UE," meddai.
"Fe fydd angen cytundeb masnachu ar y cyd lle mae'r ddwy ochr yn cydnabod cynnyrch gwarchodedig yr ochr arall."
Yn ystod hanner cyntaf 2017, mae chwe chynnyrch o Gymru wedi cael statws arbennig gan Gomisiwn yr UE gan gynnwys Ham Caerfyrddin, Seidr Cymru a Bara Lawr Cymreig.
Mae Caws Caerffili a Corgimychiaid Bae Ceredigion yn gobeithio derbyn yr un statws yn fuan.
'Cynsail wedi'i osod'
Dywedodd Rhys Llywelyn o Hybu Cig Cymru ei fod yn "hanfodol i gynnal y statws sydd gennnym yn barod".
"Mae'n dangos i gwsmeriaid fod cig oen ac eidion yn cael ei fagu yn y dull traddodiadol, ac mae'n ein galluogi ni i gael pris premiwm am ein cynnyrch," ychwanegodd.
Roedd Mr Llywelyn yn obeithiol bod modd cadw'r dynodiad ar 么l Brexit.
"Mae cynsail wedi ei osod yma - fe gafodd coffi o Colombia statws PGI gan yr UE," dywedodd.
"Yr hyn sydd angen yw system hafal yn y DU lle gallwn gofrestru a nodi'r traddodiadau a phrosesau sydd tu cefn i'r dull yr ydym yn cynhyrchu ein bwyd."
Bydd Cymdeithas PFN y DU, sy'n cynrychioli diwydiannau o'r pasteiod Cernyweg i eogiaid yr Alban, yn cwrdd gyda swyddogion o Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) llywodraeth y DU ddydd Mercher yn Melton Mowbray, cartref y pastai porc enwog.
Dywedodd Owen Roberts, fydd yn cynrychioli Hybu Cig Cymru yn y cyfarfod: "Yn ein cyfarfod diwethaf gyda DEFRA fe wnaethon ni drafod syniadau am newid llyfn er mwyn sicrhau dilyniant yn ein hymdrechion marchnata ym Mhrydain, Ewrop a thu hwnt."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2017
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd12 Awst 2016