脗'r fodrwy hon

  • Awdur, Vaughan Roderick
  • Swydd, Golygydd Materion Cymreig y 大象传媒

Rwy'n meddwl taw hwn yw'r tro cyntaf i Beyonc茅 ymddangos yn y gornel fach hon o'r we. Mae hi wedi bod ym mhob man arall felly pam lai? Rwy'n cymryd eich bod wedi synhwyro beth sy'n dod nesaf!

"If you liked it, then you should have put a ring on it" medd y gantores yn ei ch芒n enwocaf, ac ymddengys fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ei chyngor trwy gynnig modrwy hardd i un o'n cestyll ni - neu yn hytrach un o gestyll nhw drws nesaf sy'n digwydd bod ar ein tiriogaeth ni.

Yr "Iron Ring" yw'r enw a ddewiswyd gan y penseiri ar gyfer y gwaith ac mae'n amlwg eu bod yn deall yn iawn beth yw arwyddoc芒d y term hwnnw. Dyma ddywed erthygl ar wefan :

"...the path turns the ring into a giant compass, providing the name and direction of the other castles that make up the iron ring, providing details of their own stories and legends and creating a link between them and Flint that encourages visitors to visit the other castles in the ring."

Mae'r erthygl yn nodi bod 'na ystyriaethau eraill i'r gwaith hefyd. Un o'r rheiny yw pa mor sigledig oedd gafael brenhinoedd ar y goron yn y canol oesoedd, ond mae'n amlwg o'r enw taw'r cysylltiad 芒 chestyll eraill concwest Edward I oedd y brif ysbrydoliaeth.

Yn fan hyn mae pethau'n troi'n rhyfedd braidd. Dyfarnwyd taw'r 'Iron Ring' oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth bensaern茂ol gan banel oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Cadw, Croeso Cymru a'r Cyngor Celfyddydau, ond ar 么l y penderfyniad hwnnw ymddengys bod rhywun yn rhywle wedi sylweddoli fod y dyfarniad yn broblematig.

Yn natganiad y Llywodraeth yn cyhoeddi'r penderfyniad cyfeirir at gestyll eraill Edward I ond does dim s么n bod yr "Iron Ring" yn enw cyffredin ar y cestyll hynny.

Yn hytrach dyrchafir y stwff yna ynghylch ansefydlogrwydd y goron i esbonio'r gwaith gan gyfeirio'n helaeth at Rhisiart II, Harri IV a lle castell y Fflint yng ngweithiau Shakespeare.

Mae'n anodd credu bod unrhyw un yn y Llywodraeth wedi credu y byddai modd cael get aw锚 芒 rhywbeth felly gyda neb yn sylwi, ond ymddengys eu bod nhw. Yn sicr mae methiant y llywodraeth i dawelu'r dyfroedd yn sgil y cyhoeddiad yn awgrymu nad oeddynt wedi rhagweld yr hyn oedd i ddod.

Efallai eu bod o'r farn taw dim ond criw bach o nashis fyddai'n conan ac mai storom Awst o stori fyddai hi. Os felly, ymddengys fod y gobaith hwnnw'n un gwag, gyda'r ddeiseb yn erbyn y penderfyniad yn closio at ddeng mil o lofnodion, a phapurau lleol Sir Fflint yn corddi'r dyfroedd.

Os taw bowldereiddio hanes ac wedyn cadw'n fud oedd y strategaeth, mae'n amlwg bellach nad yw hi'n gweithio.