Prinder athrawon ar gyrsiau ymarfer dysgu uwchradd

Disgrifiad o'r llun, Mae 'na brinder yn nifer sydd yn hyfforddi i fod yn athrawon ysgol uwchradd
  • Awdur, Bethan Lewis
  • Swydd, Gohebydd Addysg 大象传媒 Cymru

Rhaid mynd i'r afael 芒 phrinder athrawon cyn i broblem fawr ddatblygu, yn 么l y corff sydd yn rheoleiddio athrawon.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod nifer y myfyrwyr ddechreuodd gyrsiau ymarfer dysgu uwchradd eleni draean yn is na'r targed - a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol.

Yn 么l prif weithredwr y Cyngor Gweithlu Addysg, mae ymgyrch genedlaethol i ddenu mwy o bobl i'r proffesiwn yn rhan o'r ateb.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod fod "trafferthion lleol" o ran recriwtio ar gyfer athrawon i "rai pynciau neu sectorau".

'Sefyllfa wedi newid'

Mae ffigyrau gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn dangos bod tair canolfan ymarfer dysgu Cymru wedi recriwtio 538 o fyfyrwyr i gyrsiau ymarfer dysgu lefel uwchradd yn dechrau ym Medi 2016, er bod y targed swyddogol yn 871.

Mae hynny 38% yn is na'r targed, ac roedd y ffigwr ar gyfer y flwyddyn gynt hefyd 37% yn is na'r targed.

Mae'r data ar gyfer ymarfer dysgu cynradd yn debyg i ffigyrau llynedd - 683 o lefydd wedi'u llenwi, ychydig yn brin o'r targed o 750.

Dywedodd prif weithredwr y Cyngor Gweithlu Addysg, Hayden Llewellyn nad oedd yna "argyfwng" eto ond fod angen dod i'r afael 芒'r sefyllfa.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r nifer sydd yn hyfforddi i fod yn athrawon cynradd ychydig yn agosach at darged Llywodraeth Cymru

Y Cyngor Gweithlu sy'n rheoleiddio athrawon ac yn cadw cofrestr o'r rheiny sy'n gweithio o fewn y sector addysg yng Nghymru.

Yn 么l Mr Llewellyn mae'r pryder mwyaf ynghylch recriwtio athrawon newydd, penaethiaid, athrawon gwyddoniaeth ac ieithoedd modern, ac athrawon cyfrwng Cymraeg.

"Yn bendant, mae'n rhaid i ni fonitro'r sefyllfa, ac rydyn ni'n gweld rhai o'r materion yma nad oedd gennym ni o'r blaen," meddai.

"Yn y gorffennol roedd wastad gennym ni ormodedd o bobl oedd eisiau bod yn athrawon, felly mae angen cydnabod fod y sefyllfa sydd gennym ni nawr yn wahanol i ddegawd yn 么l."

Cyfrwng Cymraeg

Mae nod Llywodraeth Cymru o ehangu addysg cyfrwng Gymraeg yn sylweddol, fel rhan o'u strategaeth iaith i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, wedi rhoi pwyslais newydd ar gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg.

Yn 么l y Cyngor Gweithlu Addysg, ar hyn o bryd mae 27% o athrawon yn medru dysgu trwy'r Gymraeg, ac mae pryder wedi bod yngl欧n 芒'r gostyngiad yn nifer y rhai sy'n hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd Mr Llewellyn fod rhai problemau wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf.

"Yr hyn sy'n allweddol yw ceisio dod i'r afael 芒 nhw cyn i ni gael problem fawr," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r heriau recriwtio wedi newid o'u cymharu 芒 10 mlynedd yn 么l, meddai Hayden Llewellyn

Fis diwethaf dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood fod yna "argyfwng" bellach o fewn ymarfer dysgu yng Nghymru.

Mae undebau athrawon wedi honni bod pwysau gwaith a'r straen ynghlwm 芒 dysgu wedi atal pobl rhag ymuno 芒'r proffesiwn.

Mater allweddol arall, yn 么l Mr Llewellyn, yw prinder swyddi parhaol i athrawon newydd.

"Maes amlwg i'w ystyried yw yn hytrach na bod athrawon newydd yn dechrau ar sail cyflenwi neu gytundeb dros dro, yw rhoi swyddi parhaol iddyn nhw," meddai.

'Denu'r goreuon'

"Fe fyddai hynny'n arwydd clir bod dysgu yn yrfa gwerth chweil, a'ch bod yn dechrau gyda swydd barhaol."

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cyfradd y swyddi athrawon gwag yng Nghymru yn parhau'n gymharol isel, ond rydym yn cydnabod fod trafferthion lleol weithiau o ran recriwtio ar gyfer rhai pynciau neu sectorau.

"Rydyn ni eisiau i ddysgu yng Nghymru fod yn broffesiwn dewis cyntaf fel ein bod ni'n denu'r goreuon, ac rydym yn gweithio'n agos 芒'n partneriaid gan gynnwys consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol i weld beth allwn ni ei wneud o ran recriwtio a chadw, megis cynorthwyo athrawon sydd newydd raddio gyda threfniadau clwstwr ar gyfer ysgolion."

Ychwanegodd y llefarydd fod "cymhelliannau ariannol" ar gael ar gyfer rhai graddedigion, gyda mwy o lefydd hefyd ar gael ar raglen hyfforddi ar gyfer graddedigion sydd am ddod yn athrawon.