AS Plaid yn galw am ail-genedlaetholi'r gwasanaeth prawf

Disgrifiad o'r llun, Mae Liz Saville Roberts hefyd eisiau i'r cyfrifoldeb dros gyfiawnder gael ei ddatganoli i Gymru

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru yn dweud y dylai Llywodraeth y DU ymrwymo i ail-genedlaetholi'r gwasanaeth prawf.

Fe wnaeth Liz Saville Roberts ei sylwadau ar 么l darganfod bod cynnydd wedi bod yn nifer y troseddwyr ar gyfnod prawf sy'n cael eu cyhuddo o droseddau difrifol.

Cafodd y gwasanaeth prawf ei breifateiddio yn rhannol yn 2014.

Dywedodd Llywodraeth y DU bod cymharu'r ffigyrau yn "gamarweiniol".

Cwmn茂au preifat

Mae'r ffigyrau'n dangos bod nifer yr adolygiadau o droseddwyr ar gyfnod prawf yng Nghymru a Lloegr wedi cynyddu o 409 yn 2012/13, i 507 yn 2015/16.

Mae adolygiadau'n cael eu cynnal pan fo troseddwr ar gyfnod prawf yn cael eu cyhuddo o droseddau difrifol fel llofruddiaeth, dynladdiad neu dreisio.

Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol sy'n delio 芒 throseddwyr sy'n cael eu hystyried o fod yn risg uchel, ac mae gweddill y gwaith yn cael ei basio at 21 cwmni preifat.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wrth raglen Post Cyntaf Radio Cymru fore Mercher: "Mae'n rhaid cynnal adolygiad cyhoeddus o berfformiad y gwasanaeth prawf ac yn enwedig y cwmn茂au preifat.

"Ac mewn gwirionedd dylen ni fod yn edrych unwaith eto ai rhywbeth i'w breifateiddio ydy cyfiawnder a'r gwasanaeth prawf yn ei hanfod."

Ychwanegodd Ms Saville Roberts y dylai hyn gynnwys datganoli'r cyfrifoldeb dros gyfiawnder i Fae Caerdydd.

'Diwygio'r gwasanaeth'

Dywedodd yr is-ysgrifennydd cyfiawnder, Sam Gyimah nad yw pob achos yn arwain at euogfarn.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Yn 2014 fe wnaethon ni ddiwygio'r gwasanaeth prawf fel bod pob troseddwr sy'n cael cyfnod o garchar yn derbyn cefnogaeth a goruchwyliaeth ar 么l cael eu rhyddhau.

"Mae hi felly yn gamarweiniol cymharu nifer y troseddau difrifol pellach cyn y newidiadau gyda ffigyrau yn dilyn hynny, gan fod nifer y bobl ar gyfnod prawf nawr yn llawer uwch nac o'r blaen."