Y Gymraeg a thwf 'linguaphobia'

Disgrifiad o'r llun, Yr Athro Charles Forsdick

Ydy'r Gymraeg a gweddill ieithoedd lleiafrifol brodorol y DU o dan fygythiad yn dilyn canlyniad refferendwm y llynedd? Yr Athro Charles Forsdick, arbenigwr ieithyddol o Brifysgol Lerpwl, sy'n edrych ar effaith Brexit ar 'linguaphobia':

'Ideoleg uniaith beryglus'

Yn ystod ymgyrch refferendwm 2016 cafodd ieithoedd lleiafrifol y DU eu defnyddio yn wleidyddol ac i godi bwganod.

Roedd yr elyniaeth gynyddol tuag at y rheiny oedd yn siarad iaith ar wah芒n i Saesneg yn amlwg, nid yn unig ar lafar ac mewn cyfres o ymosodiadau treisgar ond hefyd mewn trafodaethau gwleidyddol.

Ymhlith y gwleidyddion gyfrannodd at y rethreg hon oedd Nigel Farage, arweinydd UKIP ar y pryd.

Yn yr un flwyddyn, honnodd Farage fod "rhannau cyfan o'n dinasoedd lle nad oedd unrhyw un yn siarad Saesneg".

Dyma sylw sy'n adrodd cyfrolau am anallu llawer yn y DU i ddeall nad ydy diwylliant cenedlaethol yn gyfystyr ag un iaith genedlaethol, a bod cyfoeth amrywiaeth diwylliedig wastad yn gysylltiedig ag amrywiaeth ieithyddol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd Nigel Farage yn ffigwr amlwg yn yr ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd

Mae'r math hwn o genedlaetholdeb, sy'n cyflwyno'r DU yn gwbl Saesneg ei hiaith, wedi treiddio i'r fath raddau nes bod y sylw i ieithoedd yn y blynyddoedd diwethaf wedi cael ei roi o safbwynt ideoleg uniaith beryglus.

Awgrymodd Eric Pickles, Ysgrifennydd Cymunedau Llywodraeth y DU yn Rhagfyr 2012, y dylai awdurdodau lleol ddarparu dogfennau yn Saesneg yn unig gan fod cyfieithu yn "tanseilio cymunedau ac yn annog rhwygiadau".

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, roedd y Prif Weinidog David Cameron yn gweld amlieithrwydd fel bygythiad hefyd, gan ddadlau - yn groes i unrhyw dystiolaeth gadarn - fod yna gydberthynas uniongyrchol rhwng faint o Saesneg oedd gan ferched Mwslemaidd yn y DU a'u tebygrwydd o fod yn gadarn "yn erbyn negeseuon Daesh [ISIS]".

Doedd datganiadau fel hyn ddim yn anghyffredin o dan lywodraethau Llafur y gorffennol chwaith, gyda Tony Blair a David Blunkett yn cysylltu 'Prydeindod' gyda'r gallu i siarad Saesneg.

Brexit yn cyfiawnhau rhagfarn?

Mae trafnidiaeth gyhoeddus wedi bod yn llwyfan i sawl digwyddiad o ragfarn ieithyddol ar wah芒n i brofiad Farage ar y tr锚n.

Ychydig cyn y refferendwm ym mis Mehefin y llynedd, fe adroddodd un teithiwr fod dieithryn ar fws rhwng Caerdydd a Chasnewydd wedi dweud wrth ddynes oedd yn siarad gyda'i mab "y dylai hi wir fod yn siarad Saesneg".

Ar 么l cael gwybod mai Cymraeg oedd y ddynes yn ei siarad (ac nid, fel yr oedd y dyn yn amlwg wedi'i feddwl, Arabeg), cafodd y linguaphobe ei roi yn ei le.

Doedd hyn, fodd bynnag, ddim yn ddigwyddiad prin.

Efallai o ddiddordeb...

Mae canlyniad y refferendwm ar Ewrop yn ymddangos fel ei fod wedi cyfiawnhau ton o ragfarn yn erbyn pobl sy'n siarad unrhyw iaith ond Saesneg.

Yr hyn sy'n drawiadol yn ecoleg ieithyddol gymhleth Prydain yn yr unfed ganrif ar hugain ydy'r cyfosodiad [juxtaposition] rhwng yr ieithoedd lleiafrifol - fel Cymraeg a Gwyddeleg - a'r ieithoedd sy'n cael eu cysylltu 芒 mewnfudwyr mwy diweddar o Ewrop, Affrica ac ati.

Y wasg a'r ieithoedd brodorol

Mae'r rhagfarn glir yma yn erbyn pobl sy'n siarad iaith sy'n wahanol i'r Saesneg yn cael ei ddisgrifio fel linguaphobia.

Cafodd y cysyniad ei fabwysiadu yn gyntaf yn yr 1950au i awgrymu unieithrwydd milwriaethus yn amlygu ei hun fel methiant i ddysgu, i osgoi ac i ddangos drwgdeimlad tuag at ieithoedd eraill.

Yn dilyn Brexit mae'r cysyniad yma yn prysur droi yn ffenomena ideolegol sy'n diffinio perthyn cenedlaethol yn 么l y defnydd ecsgliwsif o'r Saesneg.

Er bod y cyfryngau wedi rhoi'r rhan fwyaf o'r sylw i'r drwgdeimlad ymysg yr ieithoedd 'cymunedol' fel Pwyleg ac Arabeg, mae'r un yn wir am ieithoedd brodorol y DU.

Mae hyn yn amlwg iawn yn yr ymosodiadau diweddar ar y Gymraeg yn y wasg Saesneg, er enghraifft mewn a'r

Disgrifiad o'r llun, Erthygl The Times ar Ddeddf yr Iaith Gymraeg ym mis Gorffennaf

Mae'r fath linguaphobia yn dangos methiant i gydnabod amlieithrwydd hanesyddol y DU, ac felly hawliau'r bobl i gael eu haddysgu ac i fyw eu bywydau mewn iaith, neu ieithoedd, ar wah芒n i'r Saesneg.

Mae hefyd yn adlewyrchu methiant parhaol i weld bodolaeth amryw o ieithoedd - mewn ysgolion, prifysgolion, busnesau, gwasanaethau cyhoeddus - fel adnodd cymdeithasol a diwylliannol, yn hytrach na'n rhwystr i ryw fyth uniaith beryglus o undod cenedlaethol.