Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Newsnight yn ymateb i feirniadaeth
Mae'r gweinidog sydd 芒 chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg, Alun Davies, wedi galw ar y 大象传媒 i ymddiheuro am ymdriniaeth rhaglen Newsnight nos Fercher o drafodaeth ar yr iaith.
Roedd y rhaglen yn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ar eu cynlluniau i greu comisiwn i hyrwyddo a gwarchod buddiannau'r iaith Gymraeg.
Ond mae llawer wedi lleisio'u hanfodlonrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol am safon a thrywydd y drafodaeth, yn ogystal 芒'r ffaith nad oedd yr un o'r ddau gyfrannwr yn siaradwyr Cymraeg.
Mae'r 大象传媒 wedi ymateb i'r feirniadaeth drwy ddweud eu bod yn "difaru" peidio cael "trafodaeth fwy trwyadl" ar y pwnc.
Y ddau a gafodd eu gwahodd i'r drafodaeth oedd yr awdur a'r colofnydd Julian Ruck, a Ruth Dawson, golygydd Cymru o wefan newyddion The Conversation.
Dydy'r un o'r ddau yn siaradwyr Cymraeg, er i Ms Dawson ddweud eu bod yn gwybod "bore da" a'r lliwiau.
Dadl Julian Ruck oedd nad yw'r holl arian sy'n cael ei wario ar y Gymraeg yn dwyn ffrwyth, a bod llawer gormod o arian trethdalwyr yn cael eu neilltuo ar yr iaith.
Wrth amddiffyn y cynlluniau, dywedodd Ruth Dawson bod angen mwy o gefnogaeth er mwyn hyrwyddo'r iaith.
'Sarhaus'
Ond cafodd safon y ddadl, a'r ffaith nad oedd cynrychiolydd sy'n siarad Cymraeg wedi ei wahodd i gymryd rhan yn y ddadl, eu beirniadu'n hallt.
Mewn cyfweliad ar raglen y Post Cyntaf fore Iau, dywedodd Yr Athro Richard Wyn Jones fod yr eitem yn "sarhaus".
"Byswn i'n licio taswn i'n synnu," meddai, "ond dydw i ddim yn anffodus.
"Da ni di arfer efo'r math yma o agweddau yn y cyfryngau Llundeinig."
Dadansoddiad Gohebydd Celfyddau 大象传媒 Cymru, Huw Thomas
Roedd y modd mae Cymru'n cael ei phortreadu ar y 大象传媒 eisoes yn bwnc llosg cyn i Newsnight ddarlledu ei thrafodaeth ddadleuol.
Yn yr oriau cyn y darllediad, bu panel o arbenigwyr yn trafod yr angen am wella'r modd mae Cymru a'r iaith Gymraeg yn cael ei phortreadu gan raglenni teledu drwy'r Deyrnas Unedig.
Ond tra bo'r ffocws wedi bod ar y camau positif sy'n cael eu cymryd gan y 大象传媒 i wella'r sylw, mae'n ymddangos fod yr ewyllys da wedi dechrau pylu wrth i raglen Newsnight ddod i ben.
Roedd yna ymateb candryll ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda deiseb yn prysur gasglu enwau, a gwleidyddion yn galw am ymddiheuriadau.
Ond mae sawl cwestiwn yn parhau, yn eu plith: Pam dechrau gyda phennawd yn gofyn am rwystrau'r iaith? Pam dewis dau westai nad oedd yn siarad Cymraeg i drafod ei rhinweddau?
A gan fod y 大象传媒 yr wythnos hon yn cynnal ei darllediad allanol mwyaf ar wahan i Wimbledon a Glastonbury yn yr Eisteddfod, pam na ddefnyddiodd Newsnight y llwyfan hwn a'i hadnoddau i gynnal trafodaeth fwy ystyrlon?
Bu beirniadaeth chwyrn o'r cyfweliad ar wefan Twitter.
Yn dilyn y cyfweliad, cyhoeddodd yr ymgynghorydd digidol Huw Marshall ei fod wedi dechrau deiseb yn galw am ymchwiliad annibynnol o'r modd y mae'r 大象传媒 yn portreadu'r iaith Gymraeg.
Yn gynharach ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mercher, dywedodd y ddarlledwraig Angharad Mair ei bod hi'n "siomedig" gyda'r ffordd y mae Cymru'n cael ei phortreadu ar y teledu.
Wrth ymateb i hynny, dywedodd Pennaeth Cynhyrchu Cynnwys 大象传媒 Cymru, Sian Gwynedd, y byddai'r cyllid ychwanegol gafodd ei gyhoeddi'n ddiweddar yn help i wella'r sefyllfa.
Mewn cyfweliad gyda Taro'r Post ddydd Iau dywedodd Alun Davies: "Mae problem gyda'r diwylliant yn y 大象传媒 yn Llundain.
"Dyw nhw ddim yn deall beth yw'r DU, dyw nhw ddim yn gwybod beth yw diwylliant y DU a dyw nhw ddim yn deall Cymru.
"Mae'r broblem yn mynd y tu hwnt i Newsnight, ond roedd Newsnight neithiwr yn adlewyrchu'r broblem. Rwy'n credu bod y broblem yn mynd ymhellach ac yn ymwneud 芒 gwerthoedd golygyddol y 大象传媒 yn Llundain. Mae'n gwestiwn difrifol iawn iddyn nhw.
"Rwy'n gobeithio y bydd y 大象传媒 yn ymddiheuro am yr hyn wnaethon nhw neithiwr, ond hefyd mynd ymhellach i ystyried y math o ddiwylliant {o fewn y gorfforaeth} sy'n caniat谩u i hyn ddigwydd."
Ymateb y 大象传媒
Yn hwyr brynhawn dydd Iau daeth datganiad gan lefarydd ar ran y 大象传媒 yn Llundain: "Er i'r eitem hon ar yr iaith Gymraeg gynnwys safbwyntiau amrywiol, byddai trafodaeth ar bwnc o'r pwysigrwydd yma wedi elwa ar ddadansoddiad a thrafodaeth fwy trwyadl ac rydym yn difaru peidio gwneud hynny.
"Serch hynny, rydym yn credu ei bod yn bwysig i roi sylw i'r pwnc yma ac fe wnawn hynny eto yn y dyfodol."