Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Argyfwng' meddygon teulu yn y gogledd
Mae'r prinder meddygon teulu enbyd yn y gogledd bron 芒 chyrraedd st芒d o argyfwng yn 么l meddyg blaenllaw.
Yn 么l Dr Eamonn Jessup, cadeirydd Pwyllgor Iechyd Gogledd Cymru, mae'r rhan fwyaf o'r gogledd mewn peryg o golli meddygon teulu.
Mae o wedi ysgrifennu llythyr at Aelodau Cynulliad yn galw am gymorth i ddelio 芒'r argyfwng.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod cadw safon uchel o ofal sylfaenol ar draws Cymru yn flaenoriaeth.
Ers 2015 mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cymryd rheolaeth o saith practis ar draws y Gogledd wedi iddynt gael gwared 芒 chytundebau GIG.
Yn ogystal, ym Mhrestatyn mae canolfan iechyd newydd wedi agor lle mae'r meddygon teulu'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan y Bwrdd Iechyd Lleol wedi i dair meddygfa gau.
Mae disgwyl y bydd pedwar practis arall - sef Cricieth, Rysseldene ym Mae Colwyn a dau bractis arall yn Wrecsam yn dod 芒'u cytundebau i ben yn fuan.
Dywed y Bwrdd Iechyd ei fod yn parhau i weithio'n galed i ganfod atebion i'r problemau.
Yn 么l Dr Jessup mae rhybuddion wedi bod am yr argyfwng ers amser ond mae nifer y cytundebau sydd wedi cael eu trosglwyddo i'r bwrdd iechyd wedi cynyddu'n ddirfawr yn ddiweddar.
Dywedodd bod meddygon teulu wedi bod yn ymddeol yn gynnar oherwydd pwysau gwaith a bod sawl practis yn ei chael hi'n anodd i gael meddygon yn eu lle.
"Ry'n mewn sefyllfa lle mae y rhan fwyaf o'r Gogledd o fod mewn peryg o golli meddyg teulu.
"Yn Wrecsam mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am bedwar practis ac mae 'na argyfwng hefyd ym Mae Colwyn, Conwy, Llandudno a Phen Ll欧n."
Mae Dr Jessop yn honni ei bod yn costio traean yn fwy i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod yng ngofal y gwasanaethau na phractis unigol.
Yn 么l llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mae'r newidiadau i gytundebau meddygon teulu yn 2017-18 yn golygu fod y buddsoddiad mewn gofal sylfaenol wedi cynyddu 拢27m.
Mae gweinidogion yn gweithio gyda byrddau iechyd a chymdeithas feddygol y BMA i gefnogi meddygfeydd sy'n debygol o gau.
Ychwanegodd fod ymgyrch ddiweddar y llywodraeth i ddenu meddygon yn llwyddo i ddenu mwy o feddygon teulu i Gymru.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod y mater yn cael effaith ar ofal iechyd sylfaenol ar draws y DU a'u bod yn gweithio gyda partneriaid i "ddarparu y gwasanaeth gorau i gleifion ar draws gogledd Cymru".