Marwolaeth Dinbych: Dyn yn ymddangos yn llys y goron

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Laura Jayne Stuart o'i hanafiadau yn yr ysbyty ddydd Sul

Mae dyn 27 oed wedi ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio ac achosi niwed bwriadol mewn digwyddiad yn Ninbych dros y penwythnos.

Mae Jason Cooper wedi'i gyhuddo o geisio lladd Laura Jayne Stuart, 33 o'r dref, ac anafu dyn arall, David Roberts, yn gynnar fore Sadwrn.

Bu farw Ms Stuart, oedd yn fam i ddau o blant, yn yr ysbyty ddydd Sul.

Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands ei bod yn anochel y byddai'r diffynnydd yn cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth Ms Stuart.

'Merch, chwaer a modryb'

Roedd Mr Cooper yn ymddangos trwy gyswllt fideo o garchar Altcourse yn Lerpwl, ac ni wnaeth gais am fechn茂aeth.

Mae disgwyl iddo ymddangos yn y llys i gyflwyno ple ar 19 Medi, ond dywedodd y barnwr y gallai hynny newid.

Mewn datganiad dywedodd teulu Ms Stuart ddydd Llun eu bod yn torri'u calonnau o golli "merch, chwaer a modryb brydferth, ac yn fwy na dim, mam i ddau o blant hyfryd".

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud eu bod yn dal i fod yn awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yng nghanol Dinbych am tua 04:00 fore Sadwrn, neu sydd ag unrhyw wybodaeth bellach.