Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Enwi Tabernacl Treforys yn hoff gapel Cymru
Mae enillydd cystadleuaeth i ddewis hoff eglwys neu gapel Cymru wedi ei gyhoeddi.
Yr adeilad buddugol gafodd ei ddewis mewn pleidlais gan y cyhoedd oedd capel Tabernacl Treforys ger Abertawe.
Yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Cenedlaethol oedd yn gyfrifol am gynnal y gystadleuaeth, a hynny er mwyn codi ymwybyddiaeth o dreftadaeth grefyddol Cymru.
Llwyddodd Tabernacl Treforys i sicrhau 7,081 o bleidleisiau gan y cyhoedd. Cafodd yr adeilad, sy'n Adeilad Rhestredig Gradd I, ei ddylunio gan y pensaer John Humphreys ac fe agorodd yn 1870.
Tlws gwydr
Roedd yn gynllun uchelgeisiol ac fe gostiodd 拢18,000 i'w adeiladu - oedd yn swm sylweddol iawn ar y pryd. Cafodd ei ddisgrifio fel 'Cadeirlan i Anghydffurfiaeth Gymraeg', ac nid yw'r creiriau na'r dyluniad gwreiddiol wedi cael eu haddasu ers i'r capel agor.
Bydd Tabernacl Treforys yn derbyn tlws gwydr i ddathlu'r llwyddiant, ynghyd 芒 gwobr o 拢500.
Dywedodd y darlledwr a'r newyddiadurwr Huw Edwards, sydd yn is-lywydd yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Cenedlaethol: "Rwyf wrth fy modd fod capel Tabernacl, 'cadeirlan y capeli', wedi ei bleidleisio'n hoff eglwys neu gapel Cymru yng nghystadleuaeth 'Cymru Sanctaidd' Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi.
"Mae'r capel yn parhau'n ganolfan fywiog i'r gymuned, yn gartref i grwpiau diwylliannol lleol, ymarferion wythnosol gan gorau lleol, diwrnodiau digwyddiadau i'r difreintiedig a phobl ag anableddau, ac wrth gwrs gwasanaethau cyson ar y Sul.
"Mae 'Cymru Sanctaidd' wedi cynorthwyo i dynnu sylw at 50 o'r eglwysi a chapeli mwyaf hanesyddol a hyfryd drwy Gymru... mae wedi bod yn ddathliad gwych o rai o'r adeiladau crefyddol mwyaf godidog yn y byd."
Adeilad 'eiconig'
Dywedodd Huw Tregelles Williams ar ran y Tabernacl: "Fel aelodau o gynulleidfa Tabernacl Treforys rydym wrth ein bodd fod yr adeilad eiconig hwn wedi ennill cystadleuaeth 'Cymru Sanctaidd'. Hoffwn ddiolch i bawb yn ein cymuned ac yn bellach i ffwrdd sydd wedi gwneud hyn yn bosib.
"Mae'r p么l yn adlewyrchu'r nifer fawr o gorau sydd wedi perfformio yma dros y blynyddoedd a'r cynulleidfaoedd oedd wedi mynychu'r cyngherddau.
"Mae addoli a cherddoriaeth wedi mynd law yn llaw ers agor stori'r Tabernacl, pan roedd rhan isaf Cwm Tawe'n brif ddinas copr y byd."
Roedd 50 o gapeli ac eglwysi, yn cynnwys Cadeirlan T欧 Ddewi, Eglwys Santes Gwenffrewi, Treffynnon a Chapel Als, yr addoldy Anghydffurfiol cyntaf yn Llanelli, i gyd ar y rhestr fer.
Heblaw am ddathlu'r adeiladau, gobaith ymgyrch Cymru Sanctaidd yw cynnal sgwrs yngl欧n 芒 sut i'w cadw.
Daw hyn wedi i adroddiad gan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Cenedlaethol ddangos bod prinder gwirfoddolwyr i ofalu am yr adeiladau.