Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gosod gorchmynion prynu tir ar gyfer rhan newydd o'r M4
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod gorchmynion drafft i ddechrau prynu tir ar gyfer rhan newydd o'r M4 ger Casnewydd.
Bwriad y llywodraeth yw adeiladu ffordd ychwanegol rhwng Magwyr a Chas-bach i fynd i'r afael 芒'r tagfeydd cyson ger Twnneli Brynglas.
Ond does dim penderfyniad terfynol ar y prosiect eto, gydag ymchwiliad cyhoeddus yn parhau.
Mae'r llywodraeth eisiau prynu rhannau o borthladd Casnewydd ar gyfer y l么n, ac wedi gosod gorchymyn prynu gorfodol ar gyfer 303 metr sgw芒r o'r dociau.
Yn y gorffennol, mae Associated British Ports wedi mynegi pryderon am y cynllun, gan ddweud y byddai'n cymryd 20% o dir y porthladd ac yn "ei rannu'n ddau".
Mae Llywodraeth Cymru eisiau dechrau adeiladu'r ffordd newydd yn 2018, gyda'r bwriad o'i agor yn 2021.
Fe fydd yr ymchwiliad cyhoeddus i'r M4 yn parhau ar 19 Medi.