Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Lle oeddwn i: Refferendwm '97
Ble roeddech chi ar noson refferendwm datganoli 1997?
Wrth i Gymru aros yn eiddgar am ganlyniadau'r refferendwm dyma sut mae rhai o Gymry ifanc y nawdegau yn cofio'r noson.
Oes gennych chi atgofion o'r noson? Anfonwch nhw at cymrufyw@bbc.co.uk
Roedd Huw ap Tegwyn o Lanelwy wedi dod lawr ar gyfer y noson i Gaerdydd o Wrecsam, lle roedd yn fyfyriwr gwaith cymdeithasol.
Dyma sut cafodd ei hun ar dudalen flaen y South Wales Echo bore wedyn:
"Nes i gychwyn y noson yn Clwb Ifor Bach - roedd 'na lwyth o bobl yn y bar canol yno, lot o ffrindiau a phobl ro'n i'n eu hadnabod yn cael cwpl o ddrincs ac yn sb茂o ar y canlyniadau'n dod i mewn," meddai Huw.
"Y canlyniad cynta': Wrecsam - yn erbyn. Ond roedd y bleidlais yn amlwg ar i fyny, roedd yn hollol wahanol i '79.
"Felly ro'n i'n meddwl ei bod hi'n rhy fuan i ddweud. Ond roedd yn amlwg fod pethau'n mynd i fod yn eitha' agos.
"Wrth i'r canlyniadau cyntaf ddod trwadd roedd pobl ychydig bach yn siomedig ac mi wnaeth pethau ryw ddigwydd a 'na'th pobl gael eu taflu allan o'r clwb.
"Yn anffodus ro'n i'n un ohonyn nhw, er, mae'n rhaid imi ddweud mai trio cadw'r heddwch oeddwn i a thrio darbwyllo pobl!
"Ro'n i'n gwybod fod 'na barti yn y Thistle so nes i gerdded yno a dyna lle roeddan ni'n yfed a sgwrsio. Roedd 'na bob math o bobl yna - Albanwyr, pobl o Gernyw a phobl o bob cefndir.
"Wrth i'r noson fynd yn ei blaen a'r canlyniadau'n mynd yn eithaf gwael roedd pobl yn mynd i'w plu ac yn dechrau meddwl be roedd hyn yn ei ddweud amdanon ni fel Cymry? Ein bod yn methu 芒 phleidleisio dros y senedd eitha pitw mewn gwirionedd oedd ar gynnig.
"Roedd pobl yn dorcalonnus ar un pwynt.
"Ond fel roedd pethau'n mynd ymlaen roedd hi'n mynd yn agosach ac yn agosach.
"Ro'n i'n 'nabod un o'r bobl oedd yn trefnu'r ymgyrch I'e' ar y pryd a jyst cyn i ganlyniad Caerfyrddin ddod trwadd mi wnaeth o basio a rhoi winc imi a d'eud 'Dio ddim drosodd eto ...'
"'Na'thon ni i gyd ddod at ein gilydd at lle roedd y canlyniad ola'n cael ei gyhoeddi. Dyma'r canlyniad yn dod drwadd a phawb jyst yn gwirioni, yn mynd yn wyllt.
"Roedd hi fel g锚m b锚l-droed a rhywun yn sgorio yn y funud ola'. Oedd o bron cystal 芒 Chymru yn mynd trwodd i'r Euros!
"Dwi'n cofio lot o agor poteli wedyn a chyrraedd adre, rhywsut, tua pump o'r gloch y bore ond mae'n 'chydig bach o blur. Roedd y noson yn eitha hir ac yn emosiynol iawn!
"O'n i ddim yn gwybod dim byd am y llun tan y bore wedyn pan nes i ddeffro yn fflat un o'n ffrindiau. Roeddan nhw di prynu ryw 40 copi o'r Echo ac roedd y cop茂au i gyd ar y llawr a'r llun yn sb茂o arna fi o'r dudalen flaen.
"Roedd yn brofiad surreal deffro a gweld dy hun ar dudalen flaen yr Echo!"
"Mae gen i atgofion melys, roedd yn lot o hwyl, yn amser cythryblus lle roedd lot o bethau'n newid yn gyflym i Gymru ac roedd hwnna jyst yn rhan o'r broses dwi'n meddwl, yn foment bwysig i Gymru ein bod wedi cael system o ddemocratiaeth am y tro cynta'."
I Heledd Bebb a Nia Davies roedd diwrnod refferendwm 1997 yn ddiwrnod mawr am reswm arall - roedden nhw'n cychwyn ar eu diwrnod cyntaf yn y brifysgol yn Aberystwyth.
"Roedd yn ddiwrnod cyntaf yn y coleg ac yn fwy na hynny roedd y tro cyntaf i fi gael pleidleisio o gwbl mewn unrhyw fath o etholiad," meddai Heledd Bebb o Gaerfyrddin oedd newydd droi'n 18 oed.
"'Wy'n cofio dihuno yn eitha' cynnar a mynd lawr gyda'r cyntaf i bleisleisio yn ardal Caerfyrddin wedyn gyrru lan i Neuadd Pantycelyn. Roedd tipyn o gyffro a nerfusrwydd.
"Roedd criw ohonon ni'n ffrindiau agos iawn o Ysgol Bro Myrddin yn mynd lan i Aberystwyth a doedden ni ddim yn gwybod bryd hynny fod Caerfyrddin yn mynd i fod mor dyngedfennol yn y bleidlais erbyn diwedd y dydd.
"Fi'n cofio'r lle dang ei sang a llond lle ohono ni'n eistedd ar y llawr ac un teledu cymharol fach i bawb ei wylio.
"Wedyn y sioc pan daeth y canlyniadau cynnar mas oedd yn dangos ei bod hi'n mynd i fod yn dynn ofnadwy.
"Ro'n i'n iste gyda dipyn o griw o Gaerfyrddin a fi'n cofio dweud 'Ma'n oreit, 'dyw Caerfyrddin ddim 'di dod mas 'to'.
"Ac wrth gwrs wrth bod y noson yn mynd ymlaen, dechrau colli ffydd fod canlyniad Caerfyrddin yn mynd i fod yn ddigon!
"Fi'n cofio'r foment wnaeth John Meredith roi'r canlyniad a'r sylweddoliad fod y bleidlais yng Nghaerfyrddin yn mynd i helpu cymryd y bleidlais dros y linell hollbwysig 'na. Dathlu'n hollol boncyrs wedyn.
"Achos bod y bleidlais mor agos a'r ffaith taw canlyniad Caerfyrddin oedd yr un ola' mae wedi hala fi i sylweddoli o'r bleidlais gyntaf un yna pa mor bwysig yw pleidleisio a faint o wahaniaeth mae pleidlais un person yn gallu ei wneud i ganlyniad."
Cafodd Nia Davies o Wrecsam ei geni dridiau ar 么l refferendwm datganoli 1 Mawrth, 1979. Ddeunaw mlynedd yn ddiweddarach fe aeth hi hefyd allan i bleidleisio yn refferendwm 1997 cyn cychwyn am Aberystwyth i astudio hanes a gwleidyddiaeth.
"O'n i ddim yn 'nabod neb wrth gyrraedd y coleg ond y noson honno fe wnaeth pawb ymgynnull yn y lolfa yn Pantycelyn i wylio'r canlyniadu'n dechrau dod i mewn.
"Aeth pawb yn eitha depressed pan oedd hi'n edrych fel bod 'Na' yn mynd i ennill.
"Doedden ni methu credu'r peth. Roedd pawb yn s么n faint ohonon ni fyddai'n gorfod symud o Gymru ar 么l graddio os fyse Cymru'n pleidleisio 'Na'.
"Roedd pawb yn ddigalon ac yn meddwl 'Dyna'r diwedd ar Gymru. Os ydyn ni wedi pleidleisio ddwywaith yn erbyn datganoli mae'n rhoi taw ar gael cynulliad am 100 mlynedd eto'.
"Ar ein diwrnod cynta' ni yn y coleg roedd yn dorcalonnus i feddwl y byse Cymru wedi deud 'Na' i hyd yn oed ychydig bach o ddatganoli ar y diwrnod roedden ni'n cychwyn ein bywyd, yn symud o gartre am y tro cyntaf.
"Ond wrth gwrs, reit ar y diwedd daeth Caerfyrddin i mewn ac roedd pawb yn methu credu'r peth. Roedd hi tua pump o'r gloch y bore a channoedd o bobl yn Pantycelyn yn cael parti ac yn dathlu yn y lolfa.
"Mae'n ychydig o cliche ond mi wnes i ddeffro'r diwrnod wedyn yn teimlo fy mod i'n cychwyn ar fywyd newydd a bod Cymru hefyd wedi cychwyn ar fywyd newydd."
Cafodd Alan Williams o Gaernarfon a'i ffrindiau wybod o ffynhonnell annisgwyl fod Cymru wedi pleidleisio dros Gynulliad tra roedden nhw ar wyliau yn yr Unol Daleithiau yn haf 1997.
"Yn Chicago oeddan ni ac mi wnaethon ni gael tacsi i rywle," meddai.
"Wrth gwrs 'nath y dreifar tacsi ofyn o lle oeddan ni'n dod.
"'Cymru,' medda' ni.
"A dyma'r dreifar yn dechrau gwenu a deud 'Congratulations on gaining your independence'.
"Oeddan ni di anghofio bob dim am y refferendwm!
"Wrth gwrs roeddan ni wrth ein boddau'n clywed y newyddion.
"Dyn o Nigeria oedd o ac roedd o'n gweld struggle Cymru yn agos iawn i struggle Nigeria yn erbyn gwledydd cyfoethog y byd oedd yn cymryd mantais o resources ei wlad o.
"Mi gawson ni beint neu ddau i ddathlu de!"