Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Darlledwyr o fri
Mae dau ddarlledwr o Gymru wedi ennill eu lle ar o gyflwynwyr radio gorau'r 大象传媒 dros yr hanner can mlynedd ddiwethaf.
Gyda llaw, doedd 大象传媒 Radio Cymru ddim yn rhan o'r arolwg neu mi fyddai'r rhestr yn edrych yn dipyn gwahanol!
Cafodd y rhestr ei llunio wedi i'r cylchgrawn ofyn am farn beirniaid radio, arbenigwyr a rheolwyr yn y byd darlledu.
John Humphrys, cyflwynydd Today ar 大象传媒 Radio 4 yw'r Cymro cyntaf ar y rhestr yn rhif 13.
Mae'r newyddiadurwr 74 oed o Gaerdydd wedi bod yn cyflwyno'r rhaglen newyddion foreol ers blynyddoedd lawer. Mae'n dal i roi nosweithiau di-gwsg i wleidyddion cyn ac ar 么l iddyn nhw gael eu holi'n dwll ganddo.
Cerys Matthews yw'r cynrychiolydd Cymreig arall ar y rhestr yn rhif 49. Bydd Cerys, 48, yn fwy adnabyddus i'r rhan fwyaf o bobl fel lleisydd y band Catatonia. Ond yn ddiweddar mae hi wedi ennyn parch o fewn y cylchoedd cerddorol am ei rhaglen fore Sul ar 大象传媒 6 Music. Mae hi hefyd yn cyflwyno rhaglenni dogfen ar orsafoedd radio eraill y 大象传媒.
Felly, pwy sydd yn y 10 uchaf yn 么l y gwybodusion?
10 Uchaf Cyflwynwyr Radio Gorau'r 大象传媒 yn y 50 mlynedd ddiwethaf yn 么l arolwg y 'Radio Times'.
1) Terry Wogan
2) John Peel
3) Sue MacGregor
4) Annie Nightingale
5) Alistair Cooke
6) Kenny Everett
7) Jane Garvey
8) Humphrey Lyttleton
9) Eddie Mair
10) Jenni Murray