Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Danny Wilson i adael y Gleision ar ddiwedd y tymor
Mae rhanbarth rygbi Gleision Caerdydd wedi cadarnhau y bydd y prif hyfforddwr Danny Wilson yn gadael y clwb ar ddiwedd y tymor.
Dywedodd y clwb fod y gwaith o ddod o hyd i hyfforddwr newydd yn dechrau ar unwaith, ac y byddan nhw hefyd yn gwneud rhagor o benodiadau.
Yn 么l prif weithredwr y Gleision, Richard Holland, fe wnaeth Wilson wrthod telerau cytundeb newydd.
"Mae'n siomedig fod Danny wedi penderfynu peidio 芒 derbyn cytundeb newydd ac felly ni fydd yn rhan o'n strategaeth wrth symud ymlaen," meddai.
"Byddwn yn dechrau ar y gwaith o ddod o hyd i olynydd ar unwaith a byddwn yn cysylltu ag unigolion allweddol er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y penodiad cywir."
Yn 么l gwefan y clwb roedd Wilson yn cyfaddef fod ei benderfyniad yn un anodd ond dywedodd y bydd yn ymroi yn llwyr i'r clwb tra ei fod yn parhau yn ei waith.
Bydd g锚m nesaf y Gleision yn erbyn Munster yn Iwerddon ddydd Sadwrn.