Cyhoeddi enillwyr gwobrau arbennig BAFTA Cymru

Ffynhonnell y llun, 大象传媒 / BAFTA Cymru

Disgrifiad o'r llun, Yr awdur Abi Morgan fydd yn derbyn gwobr Sian Phillips ac fe fydd yr actor John Rhys Davies yn derbyn y wobr am Gyfraniad Rhagorol i Ffilm a Theledu

Mae BAFTA Cymru wedi cyhoeddi pwy fydd enillwyr y gwobrau arbennig yn eu seremoni flynyddol eleni.

Bydd gwobr Sian Phillips yn cael ei rhoi i'r awdur Abi Morgan gafodd ei geni yng Nghaerdydd.

Fe fydd Gwobr Arbennig BAFTA am Gyfraniad Rhagorol i Ffilm a Theledu yn cael ei chyflwyno i'r actor a'r cynhyrchydd, John Rhys Davies.

Mae'n adnabyddus i lawer fel Gimli yn Lord of the Rings, neu fel cymar doniol Indiana Jones, sef Sallah, mewn dwy o ffilmiau antur 'Indiana Jones', ac mae wedi ymddangos mewn dros 150 o sioeau teledu a ffilmiau ers y '70au cynnar.

Ffynhonnell y llun, Wikipedia

Disgrifiad o'r llun, Un o gymeriadau enwocaf John Rhys Davies yw Gimli yng nghyfres o ffilmiau 'The Lord of the Rings'

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: "Mae Pwyllgor BAFTA Cymru yn cydnabod doniau Abi Morgan a'i chyfraniad enfawr at amrywiaeth eang o ffilmiau a rhaglenni teledu, gan gynnwys 'The Iron Lady' gyda Meryl Streep fel Margaret Thatcher a 'Shame', a ysgrifennwyd gyda Steve McQueen.

"Rydym hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at ddathlu gyrfa helaeth a chyfraniad parhaus yr actor sydd wedi derbyn enwebiad Emmy, John Rhys Davies yn ystod y seremoni, gan edrych yn 么l ar ei waith o 1964 i'r presennol," meddai.

Y llynedd, yr artist coluro, Sian Grigg ennillodd gwobr Sian Phillips, yr un flwyddyn a phan gafodd hi ei henwebu am Oscar am ei gwaith ar y ffilm 'The Revenant' gyda Leonardo di Caprio.

Y sgriptiwr a chyfarwyddwr teledu a oedd yn aelod o griw Monty Python, Terry Jones ennillodd y wobr am Gyfraniad Rhagorol Ffilm a Theledu.

Bydd y 26ain gwobrau BATFA Cymru yn cael eu cynnal ar 8 Hydref gan gydnabod cyfraniad pobl o Gymru ym meysydd cynhyrchu ffilm a theledu, crefft a rolau perfformio.

Mae rhestr lawn o'r enwebiadau i'w gweld ar .